Moonde Ng'Andu

Moonde Ng'Andu

Gwlad:
Zambia
Cwrs:
MSc Bioleg Yr Amgylchedd: Cadwraeth A Rheoli Adnoddau

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe?

  • Mae gan y Brifysgol ddigonedd o lety fforddiadwy o safon uchel ar y campws ac oddi arno, ac mae gwresogyddion sydd wedi’u gosod yn dda i gynhesu myfyrwyr yn y nos wrth iddynt gwblhau aseiniadau yng nghysur eu hystafelloedd. I’r rheiny y mae’n well ganddynt aros mewn llety preifat, mae digonedd o lety fforddiadwy i ddiwallu anghenion myfyrwyr.

  • Mae gan Abertawe system drafnidiaeth heb ei hail ac mae bysiau’r brifysgol yn mynd 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos, ac mae cynlluniau talu fforddiadwy ar gael, gan gynnwys cynlluniau misol, tymhorol a blynyddol.

  • Mae lleoliad dinas Abertawe ger y môr yn ei gwneud yn gyrchfan berffaith i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae’r ddinas yn dawel ac yn fforddiadwy o’i chymharu â dinasoedd eraill fel Llundain.

Pam y dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd rhagoriaeth academaidd a chyhoeddiadau safonol y brifysgol – mae wedi’i rhestru ymhlith y 26 prifysgol orau yn y DU (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2023). Mae’r brifysgol yn hyrwyddo’n fawr y broses o ddysgu’n annibynnol sy’n hanfodol i gaffael sgiliau penodol sy’n berthnasol i’r unfed ganrif ar hugain a thu hwnt. Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau yn Abertawe yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr weithio ac astudio dramor. Mae’r bobl yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn onest iawn ac maen nhw bob amser yn barod i helpu, a dylanwadodd hynny ar fy mhenderfyniad i ddewis Prifysgol Abertawe yn gyrchfan i wireddu fy mreuddwydion academaidd.

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?


Roedd y cyfuniad perffaith o ddull ymarferol a dull meddwl, ynghyd â defnyddio offer modern, gan gynnwys rhaglennu R ar gyfer rhagweld presenoldeb a dosbarthiad rhywogaethau ac addasrwydd cynefinoedd o ran lle ac amser yn wyneb yr argyfwng newid hinsawdd, yn golygu bod y cwrs hwn yn berffaith i mi. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio’n arbennig i ymateb i’r heriau amgylcheddol presennol, gan gynnwys colli bioamrywiaeth fyd-eang a’r agenda sero net erbyn 2050.

Beth ydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?

Mynd adref a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a gefais i leihau effaith newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rwy’n bwriadu cyflawni’r nod hwn drwy ddylanwadu ar bolisi a chydweithio’n agos â nifer o gymunedau gwledig, gan eu haddysgu sut i wneud hyn a’u haddysgu am bwysigrwydd economaidd ac ecolegol byw mewn cytgord â’r amgylchedd. Fy nghynllun gyrfa hirdymor yw ailwampio fy sefydliad anllywodraethol, Youth for Green Environment and Sustainable Development (YGESD), i fod yn sefydliad rhyngwladol amlbwrpas, gan gryfhau’r cysylltiad rhwng Zambia a’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, a Phrifysgol Abertawe yn benodol.

A fyddech chi’n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?


Byddwn, yn sicr, oherwydd ei system addysg sydd ag enw da yn rhyngwladol. Hefyd, mae’r brifysgol yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i gyfoethogi datblygiad proffesiynol myfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau gyrfa a chwilio am swyddi, interniaethau gwych â thâl, gwaith cyflogedig a digwyddiadau rhwydweithio o dan arweiniad myfyrwyr.