Katherine Little

Katherine Little

Gwlad:
Unol Daleithiau America
Cwrs:
MA Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?
- Mae'r gallu i gerdded yn wych, nid oes angen car arnaf, ac nid oes angen i mi dalu am fws chwaith
- Yr amrywiaeth o bethau i'w gwneud yma, fel siopau, adloniant a bwytai
- Y pethau naturiol fel y traeth a pharciau, a'r ffordd mae byd natur gerllaw

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Dewisais Abertawe oherwydd ei sgôr ar gyfer rhagolygon cyflogaeth i fyfyrwyr. Fel myfyriwr graddedig, mae fy ngyrfa a'm dyfodol yn bwysig iawn. Dyna pam rydw i'n astudio.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Rydw i wrth fy modd ein bod yn cael lleoliad gwaith fel rhan o'r cwrs. Mae'n ein galluogi i gael profiad o weithio yn ein maes.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwy'n gobeithio cael swydd yn y Deyrnas Unedig gan fod llawer o swyddi treftadaeth cyffrous a diddorol yma.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, oherwydd rwy'n credu ei bod yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ac yn dangos llawer o ofal a charedigrwydd tuag at fyfyrwyr. Dydw i ddim yn teimlo fel rhif di-wyneb yma. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi.

Ydych chi wedi gwneud lleoliad gwaith fel rhan o'ch cwrs?
Ar hyn o bryd, rydw i'n gwneud y Lleoliad Gwaith Treftadaeth ar gyfer fy nghwrs, ac rydw i wrth fy modd. Rydw i'n cael gweld agweddau ar waith treftadaeth nad ydw i wedi'u gweld o'r blaen ac yn gwella fy sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Yr unig waith rydw i wedi'i wneud yw bod yn Fyfyrwyr Llysgennad ac mae'n brofiad gwych. Mae gen i oriau cyfyngedig oherwydd fy fisa, a gyda'r oriau mor hyblyg does dim rhaid i mi boeni am gael fy lleoliad gwaith ar yr un pryd. Rydw i hefyd yn gwerthfawrogi hynny'n fawr pan fydda i'n brysur gyda gwaith ysgol.

Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Rydw i wedi defnyddio cymorth i fyfyrwyr i gael help gyda fy anableddau dysgu. Roedden nhw o gymorth mawr ac yn gwneud yn siŵr fy mod mewn cysylltiad â'r bobl iawn. Ces i brofiad gwych hefyd gyda'r bobl hyfryd ar y campws a oedd yn caniatáu i mi ddefnyddio eu ffôn pan gyrhaeddais yma am y tro cyntaf ac nid oedd gen i ffôn wedi'i sefydlu eto. Maen nhw wir yn poeni amdanom ni yma.