Chimmi Dema

Chimmi Dema

Gwlad:
Bhutan
Cwrs:
MSc Meddygaeth Genomig

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?  

Fel rhywun â chefndir meddygol sy'n awyddus i wella gofal iechyd drwy genomeg yn fy ngwlad frodorol, roedd rhaglen Prifysgol Abertawe’n berffaith imi.  Mae'n addo gwella gwybodaeth genomig i weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â chryfhau medrusrwydd academaidd drwy gymorth academaidd am ddim a dosbarthiadau ategol sy'n meithrin sgiliau hanfodol megis ysgrifennu academaidd.  Gwnaeth yr ymagwedd gyfannol hon at addysg fy nenu i Brifysgol Abertawe, gyda'r sicrwydd y byddai'n rhoi'r offer angenrheidiol imi lwyddo yn fy astudiaethau ac yn y maes.   

 
Dywed wrthym am dy gwrs a'r hyn rwyt ti'n ei fwynhau fwyaf.   

Mae dilyn fy nghwrs Meistr mewn Meddygaeth Genomig wedi fy ysgogi'n ddeallusol. Mae'r dosbarthiadau'n cynnig cymysgedd o rhyngweithio ac arloesedd ac yn ogystal â bod yn addysgwyr, mae'r darlithwyr yn gweithredu fel mentoriaid hefyd. Y peth mwyaf gwobrwyol yn fy marn i yw pa mor agos-atoch a hael y mae ein darlithwyr. Maen nhw bob amser yn fodlon helpu ac mae hyn yn golygu bod y broses ddysgu yn gefnogol ac yn hwyl ar yr un pryd. Mae eu parodrwydd i'n helpu i ddeall cysyniadau genomig cymhleth yn cyfoethogi fy nhaith addysgol yn fawr. Un o uchafbwyntiau fy nghwrs Meistr yw'r cyfle i ddysgu'n uniongyrchol gan arbenigwyr yn y maes. Mae'r darlithwyr gwadd yn cynnig cyfoeth o wybodaeth ac yn cyflwyno ymchwil gyfredol ddiddorol sydd ar flaen y gad ym maes meddygaeth genomig.  

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe? 

I mi yn bersonol, mae swyn Abertawe'n deillio o'r traeth hyfryd drws nesaf i'r Brifysgol sy'n cynnig lle tawel i ddianc rhag trylwyredd academaidd, y pleser o fod â chylch o ffrindiau byd-eang a'r gwyliau bywiog sy'n cynnwys cerddoriaeth, theatr, y celfyddydau a bwydydd blasus.     

Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?  

Yn bendant! Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am Abertawe yw'r rhwydwaith cymorth cadarn sydd ar gael drwy ei dosbarthiadau proffesiynol a chymorth personol. Mae'r dosbarthiadau hyn wedi mireinio fy sgiliau ysgrifennu academaidd ac ymchwil ac mae'r darlithwyr wedi fy nhywys yr holl ffordd ar hyd fy nhaith.  Mae'r Brifysgol yn rhagori wrth roi gwybod i fyfyrwyr am lu o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol a'u gwahodd i gymryd rhan ynddynt, gan gynnig ffeiriau gyrfaoedd, seminarau a chynadleddau sydd oll yn ein cysylltu â'r tueddiadau diweddaraf ym myd diwydiant. Mae Prifysgol Abertawe heb os yn fan cychwyn perffaith ar gyfer pobl uchelgeisiol, gan gynnig platfform i fyfyrwyr ragori, arwain a gwireddu eu potensial llawn mewn tirwedd gystadleuol fyd-eang.