Caitlin Tanner

Caitlin Tanner

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
PhD Nyrsio

A allwch chi roi trosolwg byr o bwnc eich PhD?

Teitl fy noethuriaeth yw 'archwiliad o brofiadau nyrsys b/Byddar yn y DU' a'i nod yw rhoi trosolwg o brofiadau nyrsys byddar a sut y gall eu hamgylchedd ymarfer clinigol effeithio arnynt.

Yn y DU mae 11 miliwn o unigolion b/Byddar, sy'n gwneud colli clyw yn un o'r anableddau mwyaf cyffredin. Mae galw amlwg am ddatblygu a chefnogi gweithlu iechyd proffesiynol mwy cynhwysol, cryfhau'r set sgiliau, a chynyddu niferoedd grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli gan fod cynrychiolaeth isel o nyrsys b/Byddar mewn gwasanaethau iechyd.

Pam y gwnaethoch chi benderfynu astudio ar gyfer doethuriaeth?

Hoffwn arbenigo mewn cefnogi nyrsys sydd ag anableddau wrth iddynt ymgymryd â rôl ymarfer clinigol, a gwella fy nealltwriaeth o faes ymchwil gan fy mod yn hynod angerddol am hyn. Rwyf am ddarparu ymchwil wreiddiol sydd â'r potensial i newid ymarfer, polisïau, a chanllawiau.

Pam y penderfynoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe wedi fy nghefnogi yn ystod chwe blynedd o astudio ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, a bydd yn parhau i’m cefnogi am dair blynedd arall yn ystod fy noethuriaeth. Mae'r tiwtoriaid a'r academyddion yn hynod agos-atoch, yn gefnogol, ac maent wedi helpu i'm harwain ar fy nhaith i'm PhD. Rwy'n hynod ddiolchgar i fy ngoruchwylwyr dros y chwe blynedd diwethaf gan na fyddwn wedi cyrraedd ble rydw i heddiw heb eu hanogaeth a'u cefnogaeth.

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu?

Dwi'n hollol fyddar yn y ddwy glust ac mae gen i fewnblaniadau yn y cochlea. Rwyf wedi profi llawer o heriau dros y chwe blynedd diwethaf hyn wrth imi orfod addasu i fy amgylcheddau ond gwnaeth cefnogaeth fy nghydweithwyr a’m tiwtoriaid yn y brifysgol fy helpu i ffynnu. Defnyddiais yr holl gefnogaeth a oedd ar gael i gefnogi fy nysgu, megis cymhorthion radio a dyfeisiau cynorthwyol eraill.

Sut rydych chi wedi elwa o wneud doethuriaeth?

Rwyf hefyd wedi mynychu gweithdy PhD yn Norwy am 5 diwrnod ym mis Rhagfyr 2022 o'r enw ‘Dr Deaf PhD workshop’ sydd wedi bod yn gyfle hollol wych a roddodd y cyfle imi gydweithio ag academyddion byddar eraill o bob rhan o'r byd, ac mae pawb wedi bod mor groesawgar. O ganlyniad i hyn, mae gen i gyfleoedd i fynd i gynadleddau eraill o amgylch y DU a'r UE sy'n hynod gyffrous.

Sut bydd eich cymhwyster yn helpu eich gyrfa? Ydy’r cymhwyster eisoes wedi helpu eich gyrfa?
Rwy'n agored i'r posibiliadau y bydd y PhD hwn yn eu cynnig, boed yn yrfa ym maes ymchwil neu ddarlithio. Mae manteision astudio’r radd ymchwil hon yn cynnwys y ffaith y bydd y sgiliau rwy’n eu datblygu yn hynod ddefnyddiol ar gyfer unrhyw swydd neu lwybr gyrfa byddaf yn ei ddewis yn y dyfodol. Hefyd, o ganlyniad i’r cymwysterau rwyf wedi eu hennill, cyrhaeddais y rhestr fer am 'wobr Dysgwr y Flwyddyn' Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac enillais i’r wobr yn y pen draw oherwydd fy ymdrechion yn fy MA a fy PhD.

Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt i chi?

Gweithiais gydag elusen pobl fyddar i greu fideo YouTube i archwilio nyrsio ac addysg uwch (graddau meistr a PhD) fel trywydd gall pobl fyddar ifanc anelu at ei ddilyn

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n ystyried gwneud astudiaethau ôl-raddedig?

  • Siaradwch â goruchwylwyr posibl, neu ddarlithwyr academaidd er mwyn gweld a allen nhw eich rhoi ar y trywydd cywir neu amlinellu unrhyw gyfleoedd i chi archwilio a fyddai’n helpu gyda’ch amcanion
  • Meddyliwch pam rydych chi eisiau gwneud astudiaethau ôl-raddedig, ac esboniwch eich cymhellion yn dda, oherwydd bydd hyn wir yn helpu eich cais
  • Peidiwch byth ag ofni derbyn adborth, gan fod popeth bob amser yn gromlin ddysgu.
  • Byddwch yn eiriolwr drosoch eich hun os oes gennych anableddau sy’n golygu bod gennych anghenion y mae'n rhaid eu bodloni, megis defnyddio dyfeisiau cynorthwyol.