Mae rhannu Eiddo Deallusol (IP) a gwybodaeth yn sail i’n gallu i feithrin partneriaethau cryf, gan gynyddu effaith ein hymchwil a rhoi mantais gystadleuol i chi.

Rydym yn Brifysgol a arweinir gan ymchwil gref ac mae gennym bortffolio Eiddo Deallusol helaeth (dylunio, hawlfraint, nodau masnach) ac arbenigedd sylweddol ym maes breintlythyrau.

O’r cysyniad cychwynnol hyd at wireddu eich syniadau, gallwn eich helpu i ddatblygu cynnych a gwasanaethau newydd, ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a dylanwadu ar bolisi.

Drwy gydweithio â Phrifysgol Abertawe, gallwn eich helpu i:

  • Ddatblygu a gwireddu eich syniadau
  • Cyrchu ein technoleg a’i thrwyddedu
  • Cyrchu cyfleoedd trosglwyddo gwybodaeth

I ddysgu mwy am sut gallwn helpu'ch sefydliad, cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Busnes