YMCHWIL HEB EI GYMEDROLI O BELL
Gellir gwneud hyn unrhyw bryd. Byddwn yn anfon dolen atoch gyda thasgau neu gyfarwyddiadau. Gallwch ddefnyddio ffôn symudol neu gyfrifiadur i gofnodi eich sgriniau (os oes angen gwneud hyn) wrth wneud y tasgau. Pan fyddwch wedi gwneud hynny, cyflwynwch y fideos a byddwn ni’n eu gwylio ac yn dysgu ganddynt.
Yn gyffredinol, caiff hyn ei ddefnyddio ar gyfer:
- Profion defnyddiwr sy’n defnyddio lookback
- Arolygon dylunio sy’n defnyddio UsabilityHub
PROFI I DDEFNYDDWYR
Mae profion defnyddioldeb yn canolbwyntio ar bobl a thasgau. Mae’r profion hyn yn canolbwyntio ar dasgau a senarios cyffredin sy’n cynrychioli nod terfynol nodweddiadol. Gallai enghraifft o hyn fod yn brawf defnyddioldeb sy’n seiliedig ar ymgeisydd sy’n cyflwyno cais i ddod i’r Brifysgol.
- Rydym yn cynnal profion defnyddioldeb ar y campws yn ein labordy defnyddioldeb ac o bell wrth ddefnyddio lookback.
- Mae profion defnyddioldeb heb eu cymedroli fel arfer yn para tua 30 munud.
Mae profion defnyddioldeb yn dibynnu ar adborth onest a di-flewyn-ar-dafod gan y cyfranogwr, ynghyd â’r gallu i feddwl yn uchel wrth iddynt ddefnyddio’r cynnyrch digidol. Mae angen i’r cyfranogwr deimlo’n gyffyrddus yn esbonio eu prosesau meddwl wrth iddynt ddefnyddio cynnyrch, yn enwedig os nad yw’r prawf defnyddioldeb yn cael ei gymedroli.
AROLYGON DYLUNIO
Mae Arolygon Dylunio’n ffyrdd cyflym a hwylus o gael adborth mewn ffordd ddemocrataidd. Caiff dolen ei rhannu gyda chronfa fawr o ddefnyddwyr ac maent yn rhoi adborth. Fell arfer, maent yn cymryd ychydig o funudau’n unig, gan gynnwys y mathau canlynol o astudiaethau:
- Prawf Dyluniad a Ffefrir - dewis dyluniad A/B a dweud pam eich bod chi’n ei hoffi
- Prawf 5 Eiliad - Adolygu sgrîn a dweud wrthym yr hyn rydych chi’n ei gofio
- Prawf Coeden Saernïaeth Gwybodaeth - Ceisio dod o hyd i gynnwys mewn rhestr syml sy’n fersiwn sylfaenol o system llywio gwefan
- Prawf Clic Cyntaf - Tasg syml lle rydych chi’n clicio lle byddech chi’n disgwyl gallu ei gwblhau
Rydym yn defnyddio gwasanaethau megis UsabilityHub ac Optimal Workshop i ddarparu ein Harolygon Dylunio.
YMCHWIL ETHNOGRAFFIG
Ymchwil ethnograffig yw dull lle mae ymchwilwyr yn arsylwi a/neu’n rhyngweithio â chyfranogwyr yr astudiaeth yn eu hamgylchedd byd go iawn. Yr agwedd allweddol ar y ffurf hon o ymchwil yw cael dealltwriaeth ddofn o bob agwedd sy’n effeithio ar y cyfranogwyr. Mae’r ymagwedd gyfannol hon yn rhoi dealltwriaeth o’r cyd-destun a’r amgylchedd maent yn byw ac yn gweithio ynddynt. Mae’r dull hwn yn rhoi dealltwriaeth o’u hymddygiad a’u nodau.
Gallai hyn gynnwys:
- Astudiaethau Dyddiadur
- Cysgodi Gwaith
- Astudiaethau Maes