Beth yw profiad defnyddwyr?
Mae ein bywydau bellach wedi’u rheoli gan gynnyrch digidol megis gwefannau a chynnyrch symudol. Rydym yn rhyngweithio â nhw bob dydd mewn llawer o agweddau ar ein bywydau. Fel arfer, bydd gan ddefnyddwyr cynnyrch nod terfynol mewn golwg, yn hytrach na defnyddio gwefan neu ap er mwyn eu defnyddio.
Cwestiynau sy’n mynd drwy feddyliau defnyddwyr wrth iddynt ryngweithio â chynnyrch:
- “Alla i wneud yr hyn mae angen i mi ei wneud?
- “Alla i gael yr wybodaeth mae ei hangen arna i?”
- “A yw’n ddiogel i’w ddefnyddio? “
- “A yw’n hwylus i'w ddefnyddio?”
Profiad Defnyddwyr (â’r byrfodd UX) yw sut mae rhywun yn teimlo wrth ryngweithio â chynnyrch. Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni am i bob un o’n cynhyrchion digidol ateb y cwestiynau hyn yn effeithiol wrth ddarparu profiad rhagorol i ddefnyddwyr a chefnogi pob defnyddiwr wrth gyflawni ei nodau.
YMCHWIL I DDEFNYDDWYR YN Y BRIFYSGOL
Cynhelir ymchwil i ddefnyddwyr er mwyn deall nodweddion a nodau defnyddwyr, yn ogystal â’u hymddygiad er mwyn cyflawni’r nodau hyn. Mae ymgysylltu â defnyddwyr terfynol yn hanfodol i sicrhau profiad gwych i ddefnyddwyr gan fod yr holl benderfyniadau dylunio a datblygu wedi’u harwain gan ddefnyddwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Beth am gymryd rhan? I’r rhan fwyaf o gyfranogwyr, mae cymryd rhan yn ddiddorol ac maent yn ei fwynhau. Os hoffech chi ymuno â ni fel profwr neu fod yn rhan o’r ymchwil, ymunwch â’n panel defnyddwyr.
Ydych chi erioed wedi bod yn rhwystredig gyda gwefannau neu systemau’r Brifysgol?
Beth am gymryd rhan gydag Astudiaethau Ymchwil Defnyddwyr a’n helpu i’w gwella!
Maent yn para tua 20 munud a gellir eu cynnal i gyd o bell mewn porwr neu dros y ffôn. Gellir eu gwneud unrhyw bryd.