Trosolwg
Rwy'n fiolegydd maes ac yn wyddonydd cymdeithasol gyda chefndir mewn masnach a chadwraeth bywyd gwyllt. Rwy'n dwlu bod yn y maes a threulio amser mewn cymunedau lleol. Treuliais ddwy flynedd yn byw mewn gwarchodfa natur yn Paraguay, yn cynnal rhestrau o rywogaethau ac yn curadu amgueddfa hanes natur. Yn 2014, symudais i jyngl Costa Rica i weithio gyda chrwbanod môr am gyfnod a oedd i fod para am naw mis. Arhosais am bum mlynedd yn y diwedd ac enillais PhD mewn Rheoli Bioamrywiaeth. Roedd fy mhrosiect mwyaf nodedig yn cynnwys gosod wyau crwbanod wedi'u hargraffu'n 3D ac wedi'u galluogi gan GPS, i olrhain masnach anghyfreithlon.
Mae fy ngwaith cadwraeth arall wedi bod yn eang ac amrywiol, o gyfweld ag allforwyr cameleon, potswyr a defnyddwyr cyffuriau, i reoli prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion a chydweithio â swyddogion gorfodi'r gyfraith a chyrff anllywodraethol.
Yn 2024, treuliais flwyddyn fel ymchwilydd ôl-ddoethurol gyda'r Rhaglen Bwyd a Natur. Nod fy mhrosiect oedd deall yn well y newidynnau demograffig sy'n llywio arferion prynu cig gwyllt yng ngorllewin Affrica.