Professor Gareth Stratton

Yr Athro Gareth Stratton

Cadair mewn Gwyddor Ymarfer Pediatrig, Sport and Exercise Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606544

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - A102
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Gareth yn Ddirprwy Is-ganghellor, yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Mewnwelediad yn y Coleg Peirianneg ac Ysgol y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Ddirprwy Athro ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia. 

Mae diddordeb academaidd yr Athro Stratton yn tarddu o’i amser fel athro addysg gorfforol a’i lywiodd i ddilyn dau brif faes ymchwil: Aeddfedu ac Addysg Gorfforol ymhlith Plant a Gweithgarwch Corfforol, Ffitrwydd ac Iechyd.

Mae wedi ymwneud ag astudiaethau mesur gweithgarwch corfforol ers mwy na 30 o flynyddoedd ac mae’n parhau i ymddiddori mewn datblygu technolegau synhwyro newydd i synhwyro ac ysgogi newidiadau mewn gweithgarwch corfforol ac ymddygiad eisteddol. Mae’r Athro Stratton wedi dylunio nifer sylweddol o ymyriadau gweithgarwch corfforol mewn poblogaethau clinigol ac iach â’r nod o newid  ymddygiad plant a hyrwyddo lles cadarnhaol.

Mae’r Athro Stratton wedi gweithio mewn rolau troi ymchwil yn ymarfer a chadeiriodd nifer o grwpiau â chyfrifoldeb am greu canllawiau ynghylch gweithgarwch corfforol ac ymddygiad eisteddol ar gyfer pobl ifanc. Yr Athro Stratton yw prif arbenigwr mewn Gweithgarwch Corfforol pwyllgor cynghori ar safonau ansawdd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Chlinigol (NICE) ym maes gordewdra plant; mae hefyd yn gadeirydd y PH17 sy’n hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith plant.

Yr Athro Stratton oedd y Cynrychiolydd Ewropeaidd ar grŵp arbenigwyr Canada ar ganllawiau symud 24 awr i blant; mae hefyd yn ymgynghorydd arbenigol ar grŵp Canllawiau ar Weithgarwch Corfforol Grŵp y Prif Swyddogion Meddygol a alwyd ynghyd i gyhoeddi argymhellion ynghylch gweithgarwch corfforol yn y DU yn 2019.

Meysydd Arbenigedd

  • Twf a datblygiad plant
  • Ffitrwydd Plant
  • Mesur gweithgarwch corfforol
  • Dadansoddeg synwyryddion
  • Cymhwysedd symud
  • Ymyriadau Gweithgarwch Corfforol
  • Chwarae Plant
  • Gordewdra

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Twf a Datblygiad Plant

Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd

Prif Wobrau Cydweithrediadau