Datblygu eich Ymarfer Creadigol yn Abertawe

Mae Ysgoloriaethau Celfyddydau Creadigol Prifysgol Abertawe yn cefnogi myfyrwyr sy'n dangos rhagoriaeth a photensial datblygiadol mewn Dawns a Chelfyddydau Theatr, y Cyfryngau a'r Celfyddydau Gweledol, ac Ysgrifennu Creadigol. Mae'r llwybrau hyn yn cefnogi ymarferwyr sy'n dod i'r amlwg sy'n cymryd camau tuag at ymarfer creadigol proffesiynol ochr yn ochr â'u hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ysgolheigion yn derbyn cymorth ariannol, mynediad at ddatblygiad creadigol wedi'i dargedu a chyfleoedd i gyfrannu at fywyd diwylliannol y Brifysgol.

Beth mae ysgoloriaeth yn ei gynnig

Beth mae ysgolheigion yn ei dderbyn

Mae Ysgolheigion y Celfyddydau Creadigol yn derbyn bwrsariaeth flynyddol o £750 i gefnogi costau eu hymarfer creadigol a hyfforddiant dan arweiniad, mentora neu gymorth arbenigol perthnasol.

Yn ogystal, mae Prifysgol Abertawe yn buddsoddi mewn datblygiad ysgolheigion drwy'r Gronfa Datblygu Ysgolheigion wedi'u Curadu, cronfa ar lefel cohort sy'n cefnogi arbenigedd proffesiynol wedi'i dargedu fel hyfforddiant arbenigol, mentora a gweithdai a ddarperir gan artistiaid sy'n ymarfer.

Bod yn Ysgolhaig Celfyddydau Creadigol

Disgwylir i ysgolheigion gynnal a datblygu eu hymarfer tuag at lefel broffesiynol, chwarae rhan weithredol ym mywyd diwylliannol y Brifysgol, cymryd rhan mewn cymdeithasau myfyrwyr perthnasol lle bo hynny'n briodol, a chyflwyno eu gwaith ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mae rhwymedigaethau llawn, trefniadau adnewyddu a gofynion cymhwysedd wedi'u nodi yn y Rheoliadau ar gyfer pob llwybr.

Dawns a Chelfyddydau Theatr

Mae'r llwybr hwn yn cefnogi myfyrwyr sy'n gweithio ym maes dawns, actio, cyfarwyddo, coreograffi, creu theatr ac arferion perfformio cysylltiedig e.e. theatr dechnegol, sy'n awyddus i ddilyn y gwaith hwn i lefel broffesiynol.

Am beth rydyn ni’n chwilio

Wrth ddewis ystyrir sgiliau technegol ac artistig, dehongliad creadigol ac ymateboldeb, profiad perfformio neu gynhyrchu perthnasol, ymarfer cydweithredol, gallu i ddatblygu, cymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol. Gall ceisiadau dynnu ar hyfforddiant ffurfiol, profiad ymarferol neu gofnod cyfatebol o gyflawniad.

Y Cyfryngau a Chelfyddydau Gweledol

Mae'r llwybr hwn yn cefnogi myfyrwyr sy'n gweithio ym maes celf weledol, ffotograffiaeth, ffilm, delwedd symudol a chyfryngau cysylltiedig sy'n awyddus i ddilyn y gwaith hwn i lefel broffesiynol.

Am beth rydyn ni’n chwilio

Wrth ddewis ystyrir sgiliau technegol a chreadigol, ymwybyddiaeth weledol neu o’r cyfryngau, gwreiddioldeb, cryfder a datblygiad portffolio yr ymgeisydd, profiad creadigol perthnasol, cymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol. Gall ceisiadau gynnwys ymarfer stiwdio, gwaith digidol, gwaith arddangos neu sgrinio, neu bortffolio sy'n datblygu.

Ysgrifennu Creadigol

Mae'r llwybr hwn yn cefnogi myfyrwyr i gynhyrchu ysgrifennu creadigol gwreiddiol, gan gynnwys ffuglen, barddoniaeth, llên ffeithiol greadigol, ysgrifennu ar gyfer perfformiad a ffurfiau llenyddol eraill i safon gyhoeddi proffesiynol a/neu berfformio.

Am beth rydyn ni’n chwilio

Wrth ddewis ystyrir gafael yr ymgeisydd ar y grefft, gwreiddioldeb a llais unigol, ymwybyddiaeth feirniadol, cryfder a datblygiad ysgrifennu'r ymgeisydd, profiad perthnasol gan gynnwys cyhoeddi neu gyflwyniad cyhoeddus, cymhelliant, a'r gallu i weithio'n annibynnol.