Troi syniadau creadigol yn weithgaredd
Mae'r Gronfa Cyfleoedd Diwylliannol yn cefnogi myfyrwyr a chymdeithasau Prifysgol Abertawe i ddatblygu sgiliau creadigol, profi syniadau newydd a chyflwyno prosiectau, digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol.
Mae'n ymestyn cefnogaeth ddiwylliannol y tu hwnt i'r Ysgoloriaethau Celfyddydau Creadigol, gan helpu mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol y Brifysgol a chyfrannu ato.