abstract

Mae’r Athro Nuria Lorenzo-Dus, Cadeirydd Personol yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol, wedi defnyddio cyllid Cherish i hyrwyddo ei hymchwil i ddiogelwch seiber.

Roedd Nuria yn rhan o’r garfan gyntaf o geisiadau llwyddiannus am gyllid sbarduno gyda’r prosiect “Ymddiriedaeth mewn marchnadoedd Crypto-gyffuriau”. Arloesodd yr ymchwil ddadansoddiad systematig o’r holl gynnwys a gynhyrchwyd gan aelodau o’r farchnad crypto-gyffuriau flaenllaw ‘Ffordd Sidan’, gan ddatgelu’r mecanweithiau a ddefnyddiwyd ganddynt er mwyn cael gwerthwyr i ymddiried ynddynt. Mae’r canlyniadau hyn yn bwysig i ymdrechion gwneuthurwyr polisi i reoleiddio troseddoldeb o fewn crypto-farchnadoedd ac fe’u cyflwynwyd i’r Cenhedloedd Unedig yn Ngenefa i arwain trafodaethau ar reoleiddio troseddoldeb o fewn crypto-farchnadoedd.

Aeth Nuria ymlaen i weithio gydag NSPCC Cymru/Wales i lansio pecyn gweithgaredd gwrth-meithrin perthynas amhriodol ar-lein, gan ddefnyddio cyllid CHERISH-DE. Ers 2014, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn archwilio’r modd y mae pobl sy’n meithrin perthynas amhriodol yn cyfathrebu gyda phlant a phobl ifanc ar-lein, drwy ddefnyddio meddalwedd canfod cyfathrebu meithrin perthynas amhriodol ar-lein ac yna’n creu adnoddau ar gyfer adeiladu gwytnwch i randdeiliaid. 

Nod y prosiect yw gwneud agweddau allweddol o’r ymchwil hon yn hygyrch i bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r pecyn gweithgaredd yn esbonio canfyddiadau’r ymchwil mewn ffordd eglur a difyr ac yn helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein.