Gwyliwch nawr! Gall un o'n dosbarthiadau meistr helpu chi penderfynnu ar gwrs

Mae ein Cyfres Dosbarthiadau Meistr yn rhoi cyfle i chi gael blas ar ein cyrsiau drwy weminarau ar-lein. Os ydych chi eisoes wedi dewis pwnc neu’n dal i benderfynu, mae’n ffordd wych o ddysgu mwy. 

Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i:

  • Gael teimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol
  • Archwilio sawl pwnc o ddiddordeb
  • Casglwch ddeunydd ar gyfer eich datganiad personol
  • Sylwer, cyflwynir y sesiynau hyn yn Saesneg yn unig.

Gyfres Dosbarthiadau Meistr - Hydref 2026


Meistrolwch Eich Datganiad Personol

Ymunwch â'n dosbarth meistr ar-lein ar Ddatganiadau Personol i ddysgu sut i arddangos dy sgiliau, dy brofiadau a'th angerdd dros dy bwnc. Byddwn yn archwilio beth sy'n gwneud datganiad personol cryf a rhannu awgrymiadau ymarferol, tynnu sylw at gamgymeriadau cyffredin ac yn rhoi'r hyder i ti ddechrau ysgrifennu dy ddatganiad dy hun.


Dyfodol Gofal Iechyd: Lle mae Bioleg yn cwrdd â Deallusrwydd Artiffisial a Data

Sut gall gwyddoniaeth a DA ein helpu fynd i'r afael â heriau iechyd y dyfodol? Archwiliwch sut mae gwyddonwyr biofeddygol yn ymchwilio i glefydau ac yn cefnogi diagnosis, ochr yn ochr â gwyddonwyr data sy'n defnyddio DA, cyfrifiadura, mathemateg, ystadegau i ddatgelu datblygiadau, gwella triniaethau a thrawsnewid gofal iechyd.


Mynd yn Fyd-eang, Cael Profiad, Bod yn Barod am Yrfa

Darganfyddwch sut gall astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor drawsnewid eich profiad yn y brifysgol a'ch gyrfa yn y dyfodol. Dysgwch am gyfleoedd Blwyddyn Dramor a Haf Dramor, lleoliadau gwaith Blwyddyn mewn Diwydiant, cyllid a chymorth, a sut mae Abertawe'n helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ledled y byd.


All mathemateg ragfynegi’r dyfodol?

Archwiliwch sut y gall tebygolrwydd a modelau mathemategol ein helpu i wneud rhagfynegiadau am ddigwyddiadau ansicr. Drwy enghreifftiau rhyngweithiol a phosau, darganfyddwch sut y gellir defnyddio cadwyni Markov, hapbrosesau a data i ddeall a rhagfynegi beth allai ddigwydd nesaf.


Byw a Dysgu drwy'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe

Mae'r sesiwn yn trafod rôl Academi Hywel Teifi a Changen Abertawe o fewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys ysgoloriaethau sydd ar gael am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hefyd trafodaeth ar y cyfleoedd a digwyddiadau fydd ar gael i fyfyrwyr ar gampws ac yn y gymuned i fyw bywyd Cymraeg yn Abertawe.


Cywir, Anghywir a'r Gweithle: Archwilio Moeseg Busnes

Archwilio sut mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn dod yn eiliadau diwylliannol, gan ddylanwadu ar sgyrsiau am hunaniaeth, rhywedd, gwleidyddiaeth a diwylliant. Darganfod sut mae'r cyfryngau'n cynrychioli chwaraeon, athletwyr a sefydliadau chwaraeon, a sut mae'r straeon hyn yn dylanwadu ar yr hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei feddwl ac yn ei gredu.


Y tu hwnt i’r gêm: Chwaraeon, Cyfryngau, Gwleidyddiaeth a Diwylliant

Archwilio sut mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn dod yn eiliadau diwylliannol, gan ddylanwadu ar sgyrsiau am hunaniaeth, rhywedd, gwleidyddiaeth a diwylliant. Darganfod sut mae'r cyfryngau'n cynrychioli chwaraeon, athletwyr a sefydliadau chwaraeon, a sut mae'r straeon hyn yn dylanwadu ar yr hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei feddwl ac yn ei gredu.


Wedi'ch Dal yn y Trap? Deall Entrapiad a'r Gyfraith

Nid yw entrapiad yn amddiffyniad annibynnol yng nghyfraith Cymru a Lloegr, ond gall llysoedd eithrio tystiolaeth os yw'r ffordd y'i cafwyd yn gwneud achos llys yn annheg. Archwilia’r weminar hon y gwahaniaeth rhwng rhoi cyfle i droseddu ac ysgogi troseddu'n weithredol ac yn ystyried y tegwch o ddibynnu ar dystiolaeth a geir drwy ymgyrchoedd pigo.


Recordiadau blaenorol

Os hoffwch chi gwylio hyd yn oed fwy o sesiynau blaenorol, gallwch nawr ddal i fyny ar ein gweminarau Head Start gyda'r recordiadau isod.

Sylwch fod yr holl gyngor a roddir yn gywir ar adeg ei bostio, ac mae cyngor pellach ar gael ar draws ein gwefan. Os hoffech wneud cais am gapsiynau ar gyfer y fideos hyn, anfonwch e-bost at y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr.

Gwyliwch mwy o recordiadau Dosbarthiadau Meistr yr Gwanwyn