Mali Colloredo, Hugo Vivash a Ffion Hopkins, israddedigion presennol sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe

Cefndir

Gofynnodd adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Abertawe am gymorth i gyflwyno rhaglenni mewn cymunedau lleol.

Mae'r adran Datblygu Chwaraeon yn gyfrifol am gyflwyno sesiynau chwaraeon, gweithgareddau a digwyddiadau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd dethol, yn ogystal â sefydliadau chwaraeon gwirfoddol lleol ledled Abertawe.

Ymateb i'r Her

Lluniodd Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe (SEA) bartneriaeth ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Chwaraeon Abertawe a Chyngor Abertawe i sefydlu prosiect unigryw 'SportSPIN' – interniaeth chwaraeon â thâl 8 wythnos i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn hyfforddiant chwaraeon fel gyrfa  raddedig.

Ymgymerodd tri myfyriwr o Brifysgol Abertawe - Mali Colloredo, Hugo Vivash a Ffion Hopkins - â’r prosiect, yn cynorthwyo hyfforddwyr chwaraeon cymunedol Cyngor Abertawe i gyflwyno rhaglenni mewn ysgolion a chymunedau lleol, am ddau fis, yn rhan-amser, ochr yn ochr â'u hastudiaethau.

Canlyniadau Llwyddiannus

Roedd y prosiect yn caniatáu i Gyngor Abertawe gyflwyno mwy o sesiynau mewn mwy o ysgolion cynradd ledled Abertawe gyda myfyrwyr lleoliad SportSPIN yn cynnal sesiynau pêl-droed, pêl-rwyd ac aml-sgiliau ar gyfer 196 o ddisgyblion ar draws un ysgol uwchradd a phedair ysgol gynradd dros gyfnod o wyth wythnos.

Yn ogystal â bod o fudd i Gyngor Abertawe, roedd y prosiect hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr lleoliad SportSPIN gael profiad gwerthfawr a gwella eu sgiliau cyn mynd ati i ddilyn gyrfa mewn hyfforddi.

"Mae lleoliad SportSPIN wedi amlygu’r angen am y math hwn o waith a'r effaith y gall ei gael. Roedd y prosiect hwn nid yn unig yn caniatáu i ni gyflwyno i fwy o ysgolion cynradd ar draws Abertawe, ond mae hefyd wedi galluogi myfyrwyr lleoliad SportSPIN i arddangos eu sgiliau." Robyn Lock, Swyddog Pobl Ifanc Actif, Cyngor Abertawe

"Dysgodd y lleoliad i mi fod hyfforddi yn yrfa rwyf am ei dilyn a'i bod yn yrfa werth chweil. Rhoddodd SportSpin gyfle i mi weithio gyda hyfforddwyr cwbl gymwysedig a oedd yn ddefnyddiol iawn o ran cael syniadau am sut i gynnal sesiynau a sut i fod yn hyfforddwr da yn gyffredinol. Mae'r lleoliad wedi fy annog hyd yn oed yn fwy i gwblhau fy mathodynnau hyfforddi pêl-droed gan fy mod yn gwybod mai dyma'r llwybr gyrfa rwyf am ei ddilyn." Mali Colloredo

"Dysgais amrywiaeth o dechnegau/sgiliau hyfforddi a'm helpodd i gyflwyno sesiynau effeithiol. Cefais lawer o brofiad gwerthfawr, gan weithio gydag ystod eang o blant 4-9 oed a chyflwyno sesiynau mewn sawl camp wahanol, gan gynyddu fy hyblygrwydd wrth hyfforddi." Hugo Vivash

"Rwy’n credu ei fod wedi helpu i ddatblygu fy sgiliau fel hyfforddwr pêl-rwyd ond hefyd ar gyfer chwaraeon eraill gan fod y profiad hwn yn eich galluogi i helpu i addysgu chwaraeon a gweithgareddau amrywiol. Heb y lleoliad hwn, fyddwn i erioed wedi cael y cyfle i weithio dramor yn ystod yr haf." Ffion Hopkins

Os credwch y gallai eich sefydliad elwa o ymgymryd â lleoliad myfyrwyr, cysylltwch â ni