Trosolwg o'r Cwrs

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn datblygu'n gyflym i fod yn elfen allweddol o sefydliadau llwyddiannus ledled y byd. Mae ei effaith yn ymestyn y tu hwnt i awtomeiddio neu ddadansoddeg, i ail-lunio'n sylfaenol sut caiff sefydliadau eu cynllunio, eu llywodraethu, eu hariannu a'u datblygu. Gyda hyn mewn golwg, mae Tystysgrif Parodrwydd am AI (CAIR) wedi’i datblygu gan Brifysgol Abertawe i ymateb yn uniongyrchol i ofynion presennol diwydiant rhyngwladol.

Nid oes angen ar y rhan fwyaf o sefydliadau weld beth y gall offer AI ei wneud. Yn hytrach, mae angen pobl arnynt sy’n gallu asesu a yw cyfleoedd AI yn berthnasol yn strategol, yn ymarferol yn dechnegol, yn hyfyw yn economaidd ac yn bosibl eu llywodraethu’n effeithiol ar raddfa fawr.

Mae CAIR yn eich helpu i ddatblygu’r gallu i wneud y penderfyniadau hynny. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu sut i asesu lefel barodrwydd eich sefydliad ar gyfer AI, diffinio targedau realistig a chredadwy, a nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i roi datrysiadau sy’n cael eu pweru gan AI ar waith yn llwyddiannus.

Mae'r Dystysgrif yn gwrs byr ar-lein, proffesiynol ei natur, nad yw'n cynnig credydau. Wedi ei dylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol, mae'n cael ei addysgu ar Lefel 7 (lefel meistr) drwy cyfres o ddarlithoedd byr wedi’u recordio sy’n caniatáu i chi ddysgu’n hyblyg. Bydd ymrwymiad rhesymol o 5 i 7 awr yr wythnos, dros gyfnod o 13 wythnos, yn rhoi digon o amser i chi ymgysylltu â'r cynnwys, cwblhau darllen dan arweiniad a gwaith ymarferol, a chymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithio byw sy'n cefnogi trafodaeth ac adborth.

Mae’r cwrs yn dod i ben gyda phrosiect terfynol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu Asesiad Parodrwydd AI a Chynllun Gweithredu AI unigol, wedi’i gefnogi gan Fynegai Parodrwydd sy’n dangos gallu eich sefydliad i weithredu’r newidiadau arfaethedig. Mae hyn yn dwyn ynghyd eich dadansoddiad o gyd-destun y sefydliad, data, technoleg, llifau gwaith, llywodraethu, gallu, economeg a newid. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gyflwyno ac amddiffyn y cynllun hwn, gan ddefnyddio iaith sy’n addas ar gyfer uwch arweinwyr, byrddau a rhanddeiliaid. Bydd hyn yn eich helpu i fynd â’ch sefydliad, a’ch gyrfa, i’r lefel nesaf.

Manylion Allweddol y Cwrs

Lefel y cwrs: FHEQ7
Dull astudio: Rhan-amser
Lleoliad: Ar-lein
Hyd: 13 wythnos

 

Dyddiad cychwyn

Ffioedd y DU/ Rhyngwladol

28 Medi 2026

£5,000 (Cynnig cyflwynol)

18 Ionawr 2027 £10,000

Pam dewis y cwrs hwn?

Manteision y rhaglen

  • Safbwyntiau diwydiannol ac academaidd - Drwy arbenigedd Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ac ein Ffowndri Gyfrifiadol, byddwch yn elwa ar arbenigedd technolegol ac entrepreneuraidd, ynghyd â dealltwriaeth fanwl o ddiwydiant.
  • Dealltwriaeth o sefydliadau cymhleth - Dysgwch sut i ystyried penderfyniadau ar draws strategaeth, data, llwyfannau, llifau gwaith, llywodraethu, pobl ac economeg.
  • Barn weithredol ymarferol - Datblygwch y wybodaeth sydd ei hangen i herio rhagdybiaethau, gwerthuso opsiynau, ac esbonio cyfaddawdau i rai nad ydynt yn arbenigwyr.
  • Dysgu cymhwysol - Datblygwch sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol i lwyddiant eich sefydliad, drwy dasgau sy’n seiliedig ar ei sefyllfa a’i anghenion penodol.
  • Cyfathrebu â’r bwrdd - Crewch fap ffordd manwl sy’n ymdrin â buddsoddiad, risg a chynllun gweithredu fesul cam, a all gael effaith sylweddol ar gyfeiriad strategol eich sefydliad.
  • Gwerth i gyflogwyr - Dewch yn gydweithiwr gwerthfawr sy’n gallu arwain trafodaethau am barodrwydd AI ar draws swyddogaethau busnes a thechnegol.

Yn addas i

  • Gweithwyr proffesiynol sy’n dylanwadu ar, yn gwerthuso neu’n arwain penderfyniadau AI o fewn sefydliadau. Mae’n arbennig o berthnasol i:
  • Rheolwyr canol i uwch reolwyr sy’n gyfrifol am weithrediadau, trawsnewid, strategaeth, cyllid, risg, pobl neu ddarparu gwasanaethau.
  • Arweinwyr technegol sydd angen cysylltu penderfyniadau ynghylch pensaernïaeth a llwyfannau â gwerth sefydliadol a threfniadau llywodraethu.
  • Sylfaenwyr a thimau arwain busnesau newydd sy’n paratoi i ehangu cynhyrchion neu fodelau gweithredu sy’n cael eu galluogi gan AI.
  • Arweinwyr yn y sector cyhoeddus sy’n ceisio cydbwyso arloesedd, atebolrwydd, gwerth cyhoeddus ac ymarferoldeb gweithredol.
  • Uwch weithredwyr neu aelodau byrddau sy’n chwilio am fframwaith strwythuredig ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi a goruchwylio.

Yr addysgu

  • Yr Athro Robert Bismuth; entrepreneur cyfresol, Athro Anrhydeddus a chyn-fyfyriwr mathemateg Prifysgol Abertawe, sy’n dod â phrofiad helaeth ym meysydd technoleg, gwneud penderfyniadau busnes, a throsi systemau cymhleth yn gamau gweithredu masnachol.
  • Yr Athro Rich Tong; sy’n dod â phrofiad sy’n ymestyn ar draws meddalwedd menter, cyfalaf menter, rolau arweinyddiaeth yn Microsoft, a sefydlu Total Neural Enterprises. Mae ei waith yn canolbwyntio ar fenter AI, systemau asiantaethol (agentic systems), strategaeth dechnolegol, a realiti ymarferol adeiladu ac ehangu cwmnïau.

Yr hyn a ddysgwch

Gofynion mynediad

Mae’r wythnos agoriadol yn darparu’r sylfeini technegol hanfodol ac ymarferol sydd eu hangen i gyfranogi’n hyderus yn y cwrs. O ganlyniad, nid oes angen profiad na chymwysterau blaenorol. Fodd bynnag, bydd angen profiad proffesiynol perthnasol arnoch, ynghyd â dealltwriaeth ddigonol o’ch sefydliad a’i gyd-destun, er mwyn gallu ymgysylltu â chwestiynau cymhwysol sy’n ymwneud â sefydliadau a mentrau.

Sut i wneud cais

Dylid cyflwyno ceisiadau ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Teitl swydd
  2. Sefydliad a'r adrannau
  3. Manylion cyswllt
  4. Lleoliad a'r dalaith amser
  5. Manylion cyswllt rheolwr neu noddwr (os yn berthnasol*)

*Caiff y cwrs ei noddi gan gyflogwyr fel arfer, ond mae croeso hefyd i geisiadau gan unigolion sy’n gwneud cais yn annibynnol.

Gall cyflogwyr gofrestru hyd at bedwar unigolyn drwy’r llwybr safonol. Os ydych yn bwriadu cofrestru pump neu fwy o gyfranogwyr, cysylltwch â ni i drafod trefniant cydgysylltiedig.

Gwnewch gais nawr

Am Abertawe

Croeso i Brifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, a cheir cydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych. Mae myfyrwyr sy'n astudio yma yn mwynhau, yn cael eu hysbrydoli ac yn cyflawni - sydd oll yn rhoi cyfle gwell iddynt sicrhau rhagolygon cyflogaeth rhagorol.

Mae ein cymuned amlddiwylliannol yn cynnig safbwynt byd-eang, gan alluogi'r rhai sy'n ymuno â ni i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a fydd yn eu rhoi ar ben ffordd tuag at yrfaoedd llwyddiannus a gwerthfawr.