Social Work Practice Educator Module

Dau weithiwr proffesiynol yn eistedd ac yn cael sgwrs

Dewch yn addysgwr ymarfer, a defnyddiwch eich gwybodaeth a'ch profiad i ysbrydoli, mentora ac arwain y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r modiwl hwn yn eich cefnogi chi, fel gweithiwr cymdeithasol cymwys, i gamu'n hyderus i rôl addysgwr ymarfer; rhywun sy'n chwarae rhan hanfodol wrth lunio'r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol. 

Drwy gydol y modiwl, byddwch yn archwilio sut olwg sydd ar addysg ymarfer effeithiol mewn lleoliadau go iawn: o gynllunio cyfleoedd dysgu ystyrlon a rhoi adborth adeiladol, i asesu gallu, rheoli heriau a hyrwyddo gwerthoedd proffesiynol. 

Caiff y modiwl hwn ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithgareddau ar y campws ac ar-lein, megis gwaith grŵp, tasgau dysgu dan gyfarwyddyd a sesiynau tiwtorial ar gyfer aseiniadau. 

Mae'r modiwl yn cynnig 35 awr o addysgu cyswllt ffurfiol, gyda'r amser astudio annibynnol yn dod â'r cyfanswm hyd at tua 300 awr. Cefnogir yr addysgu gan o leiaf 80 niwrnod ar leoliad, lle byddwch yn asesu ymarfer myfyriwr gweithiwr cymdeithasol. 

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniad traddodiadol, yn ogystal â phortffolio o dystiolaeth. Mae asesiadau amgen hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd â gofynion penodol. 

Os yw'n briodol, mae croeso i ymgeiswyr archwilio cyfleoedd ar gyfer mentora yn y Gymraeg drwy eu cyflogwr, a byddant hefyd yn gallu cyflwyno eu hasesiadau yn Gymraeg. Mae awdurdodau lleol unigol yn cynnig diwrnodau astudio a gweithdai ychwanegol; Cysylltwch â'ch tîm dysgu a datblygu perthnasol i gael manylion. 

Pam Dewis y Cwrs Hwn?

Manteision Y Rhaglen

  • Byddwch yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gallu i fyfyrio sydd eu hangen i arwain dysgu myfyriwr mewn ffordd bwrpasol, gefnogol  sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan lunio barn deg a chadarn hefyd ynghylch ei gymhwysedd sy'n datblygu. 
  • Ymgysylltwch â safbwyntiau myfyrwyr, ymarferwyr a sefydliadau er mwyn deall beth sy'n helpu pobl i ffynnu mewn amgylcheddau dysgu ymarfer. 
  • Mae cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol eich bod yn gymwys i asesu eraill yn ymarferol.  
  • Mae hefyd yn cynnig tystiolaeth glir o fodloni gofynion Ail-gofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer addysg a dysgu proffesiynol parhaus; cefnogi eich datblygiad proffesiynol eich hun wrth gyfrannu at y gymuned gwaith cymdeithasol ehangach. 

Yn Addas I...

Mae'r modiwl hwn ar gael i weithwyr cymdeithasol cymwys a chofrestredig yn unig (gyda phrofiad o o leiaf ddwy flynedd ar ôl cymhwyso). 

Bydd ymgeiswyr yn cael eu cefnogi gan eu cyflogwyr ym maes gwaith cymdeithasol, gan roi cyfleoedd i asesu'r sgiliau allweddol sydd eu hangen i oruchwylio ac asesu ymarfer proffesiynol. 

Bydd angen i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol sy'n ymgymryd â hyfforddiant cyn-gymhwyso gael eu haddysgu a'u hasesu gan yr ymgeisydd Addysg Ymarfer am gyfnod o o leiaf 80 niwrnod er mwyn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. 

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Carla Dewick bydd yn addysgu'r cynnwys yn bennaf, gyda chymorth gan Dr Tracey Maegusuku-Hewett ac aelodau o staff yr awdurdodau lleol sy'n rhan o'r bartneriaeth. 

Gofynion Mynediad

Er mwyn ymgymryd â'r modiwl hwn, rhaid i chi fod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig, gydag o leiaf 2 flynedd o brofiad ar ôl cymhwyso.

Sut i Wneud Cais

Dylid cyflwyno ceisiadau ar-lein.