Athletwyr, cyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe yn barod ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
Athletwyr, cyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe yn barod ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
Bydd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe ymhlith y rhai a fydd yn cynrychioli eu gwledydd yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow 2026 yr haf hwn.
Bydd y gystadleuaeth nofio a phara-nofio yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Nofio Ryngwladol Tollcross rhwng 24 a 29 Gorffennaf, gydag aelodau o gymuned Prifysgol Abertawe yn cael eu dewis i gystadlu dros Gymru, Guernsey a Chyprus.
Cynrychioli Cymru
Mae nifer o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cael eu dewis i fod yn rhan o dîm nofio Cymru:
- Joshua Inglis – myfyriwr Prifysgol Abertawe
- Rebecca Sutton – cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe
- Medi Harris – cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe
- Lewis Fraser – cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe
- Dan Jones – Rhaglen Berfformio Prifysgol Abertawe / Nofio Cymru
- Dylan Broom – myfyriwr Prifysgol Abertawe
Mae myfyrwraig bresennol Prifysgol Abertawe, Nansi Kuti, hefyd wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru mewn pêl-rwyd yn y Gemau.
Cynrychioli gwledydd cartref
Bydd dau fyfyriwr presennol o Brifysgol Abertawe hefyd yn cystadlu dros eu gwledydd cartref yn y pwll:
- Orianna Wheeler – Guernsey
- Panayiotis Panaretos – Cyprus
Cefnogi athletwyr ar y llwyfan rhyngwladol
Tu hwnt o'r lonydd cystadlu, bydd Swyddog Cymorth Athletwyr Prifysgol Abertawe, Verity Cook, yn rhan o dîm cymorth para-nofio Lloegr.
Fel Rheolwr Tîm Cymorth Para, bydd Verity yn cefnogi athletwyr yn ystod y gwersyll paratoi ym Manceinion a thrwy gydol y chwe diwrnod o gystadlu yng Nglasgow. Bydd ei rôl yn cynnwys cydlynu cludiant ac amserlenni dyddiol, rhoi cymorth wrth ochr y pwll, a helpu nofwyr i fynd i mewn ac allan o'r pwll yn ddiogel. Meddai Verity:
“Mae fy rôl yn cynnwys sicrhau bod athletwyr yn cael eu cefnogi’n llawn yn ymarferol ac yn bersonol, fel y gallant ganolbwyntio ar berfformio ar eu gorau ar y llwyfan rhyngwladol.
"Mae'r Gemau yn foment bwysig i bawb sy'n gysylltiedig, ac mae Chwaraeon Prifysgol Abertawe yn dymuno'r gorau i'r holl athletwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau staff yng Nglasgow".
Dilynwch Chwaraeon Prifysgol Abertawe a Nofio Prifysgol Abertawe yn y cyfryngau cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf a'r dathliadau drwy gydol y Gemau.
Dysgwch fwy am dîm nofio a phara-nofio Cymru ar wefan Nofio Cymru, a darllenwch gyhoeddiad Tîm Cymru am yr athletwyr a ddewiswyd ar gyfer Glasgow 2026.