Wedi'i ddileu o Hanes: Gwahaniaeth Wynebol a'i effaith o'r henfyd i heddiw

Wedi'i gyfarwyddo gan yr Athro Patricia Skinner, Athro Ymchwil yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ac wedi'i ariannu yn y lle cyntaf gan Gyllid Sbarduno Ymddiriedolaeth Wellcome (rhif 107780), symudodd y prosiect hwn i Abertawe yn 2016, gan adeiladau ar waith blaenorol Skinner yn y Brifysgol ar anffurfiad yn yr Oesoedd Canol, a gaiff ei gyhoeddi yn Living with Disfigurement in the Early Middle Ages fel rhan o gyfres newydd Palgrave Macmillan, New Middle Ages, tua diwedd 2016 neu ddechrau 2017.

Nod y prosiect ehangach, ar y cyd â'r Athro David Turner a chydweithwyr allanol, yw archwilio cynrychioliadau o anffurfiad ac ymatebion emosiynol iddo, gan ofyn sut mae'n analluogi, drwy dair prif thema:

  • iaith: sut caiff anffurfiad ei gynrychioli gan y bobl sy'n byw ag ef, a chan arsylwyr, yn gyffredinol ac yn broffesiynol?
  • gwelededd: pa mor weledol/anweledig yw pobl ag anffurfiadau? Pryd mae chwilfrydedd yn troi'n syllu busneslyd? A yw amlhad delweddau hygyrch yn normaleiddio neu'n gwthio wynebau gwahanol i'r cyrion?
  • materoldeb: pa dystiolaeth faterol sydd wedi goroesi sy'n dogfennu bywyd pobl ag anffurfiad wynebol, a pha eitemau (masgiau, penwisgoedd, cosmetigau a darnau prosthetig) a ddefnyddiwyd i newid ymddangosiad?

Nod deallusol craidd y prosiect yw archwilio sut gall wyneb sy'n edrych yn wahanol (drwy 'namau' genedigaethol, clefyd, llurguniad bwriadol neu anaf) niweidio ymgeision i bersonoldeb cymdeithasol llawn yn hanesyddol, a strategaethau ar gyfer rheoli a thrin anffurfiad. Drwy ddealltwriaeth feirniadol o ganfyddiad, triniaeth a phrofiadau o anffurfiad dros ddau fileniwm, a thrwy gydbartneriaeth â'r elusen Changing Faces, mae'r prosiect hwn yn newid sylweddol mewn meddwl am ddilead anarferol yn hanesyddol, a defnyddir y canlyniadau i ddatblygu set lai o batrymau o ran agweddau tuag at wahaniaethau wynebol yn fyd-eang yn yr unfed ganrif ar hugain.

Cefnogir gan: Ymddiriedolaeth Wellcome