Mae VILL@GE – Virtual Language Learning Through Entertainment Activities yn rhaglen ddilynol yn dilyn VIRLAN (prosiect Galwad ar y Cyd Addysg Amlgyfrwng yr UE) a gynhaliwyd ar ddechrau Rhaglen Dysgu Gydol Oes yr UE.

Fe'i dyluniwyd i ddefnyddio, addasu a dylunio technolegau rhithwir fel amgylcheddau dysgu ieithoedd tramor a chynnig enghraifft yn y maes hwn. Mae cynnwys profion a monitro gwybodaeth a chynnydd dysgwyr yn cyd-fynd â gweithgareddau ymchwil yr adran ac yn cynnig cyfoeth o ddata empirig i'w gyhoeddi.

Mae'r ymchwil, a ariannwyd gan Raglen Dysgu Gydol Oes yr UE (143370-2008-LLP-GR-KA2-KA2MP), yn waith cydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Szeged, Hwngari a'r cwmni meddalwedd Exodus.