Pennod 1 - Breuddwydion meddygol rhyngwladol – goresgyn adfyd er mwyn dod yn feddyg. Safia Shirzad, Afghanistan
Dilynwch daith neilltuol Safia Shirzad, lle canfu ei lle yn nannedd anfanteision yn y gymuned gofal iechyd a'r gymuned gemio ar-lein. Wedi'i hysgogi gan drychineb bersonol, darganfu Safia'r cwrs "Llwyr at Feddygaeth", gan ragori mewn modiwlau amrywiol, a chan ennill gradd dosbarth cyntaf yn y pen draw. Y tu hwnt i academia, mae angerdd Safia dros eiriolaeth yn disgleirio drwy ei gwaith gwirfoddoli, gan helpu cymunedau dan anfantais a chefnogi achosion dyngarol.
Mae gallu digidol Safia yn mynd ymhellach gan feithrin cymuned gemio fywiog a chan fagu cysylltiadau a chyfeillgarwch ar draws y tirlun digidol. Drwy ei llwyfan, mae hi'n ysbrydoli eraill i ddilyn eu diddordebau.
Pennod 2 - Grymuso menywod ledled y byd - yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn credu ynoch chi eich hun ac yn gweithredu. Bethel Ohanugo, Nigeria.
Wedi'i hysgogi gan y nod o chwalu rhwystrau technoleg mewn gofal iechyd, derbyniodd Bethel Ohanugo o Nigeria Ysgoloriaeth Eira Francis Davies. A hithau wedi'i hysgogi gan ei chenhadaeth i rymuso menywod mewn technoleg, dechreuodd Bethel ei rhaglen MSc mewn Gwybodeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei thaith yn datblygu'n erbyn heriau hiraeth ac ynysu, y gwnaeth hi eu goresgyn drwy achub ar y cyfle i fod yn rhan o ddiwylliant bywiog a digwyddiadau'r Brifysgol. Gwnaeth llwybr trawsnewidiol Bethel ei harwain o ymarfer clinigol i fyd gwybodeg, wedi'i sbarduno gan ei huchelgais i greu newid. Gwrandewch er mwyn cael cipolwg ar daith Bethel a'i hymrwymiad i rymuso menywod, creu argraff yn y diwydiant technoleg a'r tu hwnt.
Pennod 3 - Sut i oresgyn unrhyw adfyd yn eich bywyd drwy ddyfalbarhad a diben. Kuuku Anim
Sut i oresgyn unrhyw adfyd yn eich bywyd drwy ddyfalbarhad a diben. Kuuku Anim Gwrandewch ar daith sy’n llawn ysbrydoliaeth sy’n trafod gwydnwch, adnabod eich hun a phwysigrwydd cael cymorth. Dewch i gwrdd â Kuuku Anim, myfyriwr o Ghana sydd wedi goresgyn adfyd i ddilyn ei angerdd am dechnoleg gyfreithiol. Mae’r bennod hon yn archwilio penderfyniad diwyro Kuuku i oresgyn adfyd, defnyddio cryfder ei deulu a chwalu rhwystrau at fynediad. Ymunwch â ni i archwilio amrywiaeth o ddiddordebau sy’n cynnwys coginio, nofio a chwarae pêl fas a phêl-droed, ac yntau’n ddall. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan benderfyniad di-ildio Kuuku, sy’n parhau i lywio profiad bywiog myfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.
Pennod 4 - Chwalu Rhwystrau Diwylliannol wrth ddilyn eich diddordebau. Lan Wei
Rydyn ni'n dysgu am daith ysbrydoledig Lan, myfyriwr israddedig Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd sydd yn ei blwyddyn olaf. Mae stori Lan yn mynd â ni o strydoedd prysur Beijing i ddinas fywiog Abertawe. Mae stori Lan yn dyst i bŵer achub ar gyfleoedd, chwalu rhwystrau diwylliannol a dilyn yr hyn sy'n eich ysgogi. Dechreuodd ei thaith addysgol yn Beijing. Fodd bynnag, cyrhaeddodd drobwynt yn ei bywyd pan ddaeth i Abertawe, gan ddarganfod byd y tu hwnt i lyfrau testun. Gan gydweithio â cherddorion lleol, perfformio'n fyw yng Ngŵyl Ymylol Abertawe a mentro i fyd y cyfryngau a gwneud ffilmiau, mae Lan wedi archwilio ei diddordebau'n ddi-ofn.
Pennod 5 - Sut gall gweithio'n rhan-amser yn y brifysgol agor drysau i gyfleoedd cyffrous. Rewa Gupta
Yn y bennod hon, rydym yn cwrdd â Rewa Gupta, a symudodd o India i Dubai ac yna i'r DU lle cwblhaodd ei BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Er gwaethaf yr heriau yn sgîl y pandemig, gwnaeth ymrwymiad Rewa i waith gwirfoddol ei rhoi ar ben ffordd o fod yn wirfoddolwr i rôl Ymddiriedolwr sefydliad gwirfoddoli, gan feithrin mentrau arbenigol ac ymgyrchoedd codi arian. Mae ei phrofiad hi yn tanlinellu pŵer trawsnewidiol gwaith rhan-amser a gwirfoddol. Mae llwybr Rewa yn adlewyrchu ei datblygiad o fod yn un a oedd yn hiraethu am gartref i hunanhyder. Mae ei thaith yn amlygu pwysigrwydd camu y tu hwnt i'r hyn sy'n gyffyrddus, magu sgiliau, gwobrwyon gwaith rhan-amser a chroesawu profiadau newydd.
Pennod 6 - Gwerth dweud 'IE' yn ystod eich profiad yn y brifysgol. Christian Rodriguez-Howell, Sbaen.
Rydyn ni’n dilyn anturiaethau Christian, o astudio Peirianneg Sifil i archwilio’r byd, a darganfod y llawenydd o ddweud ‘ie’ i gyfleoedd bywyd. Ac yntau’n frodor o Sbaen, roedd llwybr Christian i addysg uwch ymhell o fod yn gonfensiynol wrth iddo ymdopi â chyfyngiadau system addysg Sbaen nad oedd yn cynnig llawer o ddewis o ran pynciau safon uwch. Serch hynny, dyfalbarhaodd wrth ddilyn ei freuddwydion. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio ei daith anhygoel o haul Sbaen i dirweddau bywiog y DU, lle dechreuodd ar ei antur brifysgol ac yntau’n laslanc 17 oed, gan addasu i ddiwylliant newydd a gwneud ffrindiau gydol oes, a hynny yn ystod pandemig byd-eang.
Pennod 7 - Achub ar bob cyfle a chael y budd o barhau trwy'r amser ar y llwybr tuag at eich gyrfa. Madhav Pandya, India.
Mae'r bennod hon yn cynnwys Madhav Pandya o India, a drodd y problemau sy'n wynebu ei addysg yn ystod y pandemig Covid yn gyfle i astudio dramor yn y DU. Wrth astudio BSc Cyfrifiadureg mae Madhav wedi gallu bachu ar bob cyfle a roddwyd iddo, yn ystod ei amser yn Abertawe fel Llysgennad Myfyrwyr, cynorthwyydd addysgu, Crëwr Cynnwys Digidol, Llywydd Cymdeithas India, Cyfarwyddwr Creadigol y Gymdeithas Hindŵaidd, gan gymryd a blwyddyn i astudio mewn diwydiant i gyd tra'n rhedeg sianel YouTube hynod lwyddiannus ar yr ochr! Ymunwch â ni wrth i ni ddatod stori Madhav, sy’n dyst i benderfyniad diwyro, ymrwymiad di-ildio, a’r grefft o fachu ar bob cyfle a ddaw yn ei sgil. Mae'r bennod hon yn ddathliad o fyfyriwr sydd nid yn unig yn llywio'r heriau ond sydd hefyd yn cerfio llwybr sydd wedi'i nodi gan fuddugoliaethau, gan wneud y gorau o bob eiliad.