Siddharth Mahajan

Siddharth Mahajan

Gwlad:
India
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Rhagorodd y cwrs LLM yn Abertawe ar fy holl ddisgwyliadau.

O dîm addysgu cynnes iawn, croesawgar, hyddysg a hynod broffesiynol i gwrs â strwythur da iawn, i’r amrywiaeth o adnoddau a oedd ar gael, i drefnu cyfleoedd rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes morol, i drefnu gweithgareddau allgyrsiol megis dadlau, roedd y cwrs yn cynnig popeth. Roedd y seminarau rhyngweithiol a oedd yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn gyda’r darlithwyr, sy’n mynd gam ymhellach na’r darlithoedd arferol yn yr ystafell ddosbarth, o fudd mawr. Creodd y gwahanol ddulliau asesu gryn argraff, gan eu bod yn seiliedig ar ddull gweithredu hynod ymarferol.  Yn sicr, mae’r cwrs wedi agor drysau ac rwyf eisoes wedi’i argymell i lawer o’m cyd-gapteniaid a byddwn yn parhau i’w argymell.