Scott Rosser

Scott Rosser

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Swoleg

Roeddwn i'n hoffi natur hyblyg y radd a'r cyfle i gymryd amrywiaeth eang o ddosbarthiadau.

Mae gan ddinas Houston lawer i'w gynnig a'r uchafbwyntiau oedd mynd i gêm pêl-fasged yr Houston Rockets yng Nghanolfan Toyota a gwylio'r Houston Astros yn chwarae pêl-fas.

Adeg y Nadolig, teithiais i a myfyriwr arall o Abertawe i Efrog Newydd ac ar ddydd Nadolig gwnaethon ni logi beiciau ac archwilio Central Park. Hefyd, aethon ni i South Padre ar gyfer egwyl y gwanwyn: roeddwn i wedi gweld ffilmiau am hwyl a sbri egwyl y gwanwyn, a ches i ddim fy siomi gan South Padre!