Morgan Lees

Morgan Lees

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
MSc Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd

Dewisais astudio MSc Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd oherwydd yr amryw o gyfleoedd gyrfa y byddwn yn eu hennill a'r set sgiliau eang y byddwn i'n ei chyflawni o'i hastudio.

Mae'r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ac yn caniatáu i mi arbenigo yn fy hoff agweddau o ddaearyddiaeth yn ogystal â galluogi'r defnydd o feddalwedd gymhleth fel arcGIS, sy'n sgìl y mae cyflogwyr yn gofyn amdano'n benodol.

Fe wnes i astudio Daearyddiaeth ar lefel israddedig ym Mhrifysgol Abertawe gyda phwyslais ar ddaearyddiaeth ddynol. Mae Abertawe yn brifysgol wych oherwydd y lleoliad ger y môr ac mae hi mor agos at y Gŵyr. Ar ben hyn mae yna deimlad o gymuned yn deillio o fod yn brifysgol campws. Fe benderfynais i barhau gyda fy astudiaethau ôl-raddedig yn Abertawe er mwyn parhau i dderbyn cymorth i astudio yn y Gymraeg ac i brofi'r lleoliad hardd am flwyddyn ychwanegol.

Mae astudio yn y Gymraeg yn ddewis naturiol i mi. Roedd cyflawni fy nhraethawd estynedig yn y Gymraeg yn broses bleserus a syml. Byddaf yn derbyn Bwrsari Llywodraeth Cymru gwerth £1,000 am ddilyn elfen o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dysgu Mwy