Minh Huyen La

Minh Huyen La

Gwlad:
Fietnam
Cwrs:
MA Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL)

Y tro cyntaf i mi ddarganfod Prifysgol Abertawe oedd wrth archwilio’r rhestr o brifysgolion yng Nghymru sy’n cynnig Ysgoloriaeth Ôl-radd Fyd-eang Cymru.

Pam y dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Tynnwyd fy sylw at Brifysgol Abertawe ar unwaith, yn bennaf oherwydd ei henw swynol. Ar ôl edrych ar wefan y brifysgol, cefais fy argyhoeddi mai dyma oedd fy newis cyntaf ar gyfer fy astudiaethau ôl-radd. 

Mae gan Brifysgol Abertawe hanes cyfoethog ac mae’n cynnig cwrs o’r radd flaenaf sy’n cyd-fynd yn berffaith â’m diddordebau — MA TESOL, a hwn yw’r cwrs rwy’n ei ddilyn ar hyn o bryd. Mae’r brifysgol yn darparu cyfleusterau o’r safon uchaf sy’n gymorth mawr i fyfyrwyr yn eu hastudiaethau a’u bywydau fel myfyrwyr. Hefyd, mae ei meysydd ymchwil yn enwog am eu hansawdd uchel ac yn cael eu cydnabod fel rhai sy’n arwain y byd o ran rhagoriaeth.

O ystyried yr holl ffactorau hyn, rwy’n ffyddiog bod Prifysgol Abertawe yn amgylchedd perffaith ar gyfer fy nhaith academaidd a phersonol. Hefyd, pwy all beidio â chael ei ddenu gan y traeth prydferth y mae Prifysgol Abertawe yn edrych drosto?

Allwch chi ddweud wrthym ni am eich cwrs a’r hyn rydych chi’n ei fwynhau fwyaf?

Ar hyn o bryd, rwyf wedi ymrestru ar y rhaglen MA Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL). Mae’r wybodaeth rwy’n ei chael o’r cwrs hwn yn wirioneddol ddwfn ac yn gyfredol. Mae’n caniatáu i mi ymchwilio i fframwaith damcaniaethol addysgu iaith a deall sut i’w gymhwyso yn fy ngyrfa ddysgu. Mae’r cydbwysedd rhwng ymchwil ac elfennau addysgu ymarferol yn arbennig o werthfawr.

Hefyd, rwy’n cael fy ysbrydoli gan ymroddiad a phroffesiynoldeb ein darlithwyr. Maent yn chwarae rhan hollbwysig wrth feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol sy’n fy nghyfoethogi. Hefyd, mae fy nghydfyfyrwyr ar y cwrs wedi bod yn rhyfeddol o gefnogol. Rydym yn sicrhau ein bod yn helpu ein gilydd yn ein hastudiaethau, sy’n creu amgylchedd cydweithredol ar gyfer ein profiad dysgu.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe?

Fy nhri hoff beth am Abertawe yw ei phobl, y natur a’r amodau byw. Pan gyrhaeddais i’r ddinas a’r wlad newydd hon, cefais fy synnu gan y croeso cynnes a chyfeillgarwch pobl Abertawe. Maen nhw’n wirioneddol annwyl a phob amser yn barod i helpu.

Mae harddwch naturiol Abertawe y tu hwnt i eiriau. O’r traethau trawiadol i’r parciau niferus sy’n cynnig awyr iach, mae rhywbeth arbennig am y cysylltiad â natur yma.

Mae’r amodau byw yn Abertawe yn ardderchog, ac mae’r holl bethau angenrheidiol mewn mannau cyfleus yng nghanol y ddinas ac yn fy nghymdogaeth. Mae Abertawe yn lle cyfforddus i fyw, ac mae costau byw yn fforddiadwy, sy’n golygu bod y ddinas yn arbennig o addas i fyfyrwyr.

Fyddech chi’n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?

Yn sicr! Rwy’n argymell Prifysgol Abertawe yn llwyr i fyfyrwyr rhyngwladol eraill. Mae’r brifysgol yn darparu amgylchedd astudio amrywiol a chroesawgar i fyfyrwyr lleol a myfyrwyr rhyngwladol o bob rhan o’r byd. Nid yw astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn fater o ddysgu gwybodaeth yn unig; mae’n cynnig cyfnewidfa ddiwylliannol gyfoethog, profiadau cofiadwy ym mywyd myfyriwr, a llawer mwy. Rwy’n wir yn llawn cyffro am groesawu rhagor o fyfyrwyr rhyngwladol, yn enwedig o Fietnam, i Brifysgol Abertawe.