Margarita Bartzi

Margarita Bartzi

Gwlad:
Gwlad Groeg
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Roedd fy nghyfnod yn Abertawe yn hynod werthfawr.

Roedd y ddinas hardd yn cynnig amgylchedd ardderchog i gael saib cyflym wrth astudio ac roedd bywyd gyda’r nos yn fythgofiadwy. Gan weithio mewn grwpiau seminar bach a rhyngweithiol a chael fy addysgu gan academyddion o’r safon uchaf, roedd y rhaglen LLM yn brofiad dwys a heriol ond ar yr un pryd, yn brofiad gwerthfawr a newidiodd fy mywyd. Byddwn yn argymell graddau LLM yn Abertawe i unrhyw fyfyriwr sy’n chwilio am gyfle heb ei ail i wella ei wybodaeth gyfreithiol ac i ymgymryd â’r profiad dysgu gorau posibl drwy deithio ac astudio dramor mewn amgylchedd hynod ryngwladol.