Khushbu Nayer

Khushbu Nayer

Gwlad:
Zimbabwe
Cwrs:
BEng Peirianneg Biofeddygol (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant)

Wrth ddewis prifysgol ar gyfer fy astudiaethau peirianneg, roedd Prifysgol Abertawe'n sefyll allan fel y dewis clir.

Roedd ei safleoedd trawiadol, yn benodol ym meysydd peirianneg, ymchwil a phrofiad myfyrwyr wedi creu argraff arna i'n syth. Roedd y cyfleusterau o'r radd flaenaf ac ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu'r addysg orau yn ffactorau allweddol yn fy mhenderfyniad. Yn ogystal, roedd y ffaith bod Abertawe ger y traeth yn fonws hyfryd, gan gynnig amgylchedd unigryw ac ysbrydoledig ar gyfer fy nysgu a’m twf personol.

Mae'r addysg o'r radd flaenaf a'r llu o gyfleoedd sydd ar gael wedi bod yn allweddol yn fy natblygiad personol a phroffesiynol. Mae'r brifysgol wedi rhoi’r offer a'r cymorth sydd eu hangen arnaf i ragori yn fy astudiaethau gan osod sylfaen cadarn ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.

Yn ystod fy amser yn Abertawe, dwi wedi dysgu a thyfu mewn ffyrdd nad oeddwn i wedi'u rhagweld. Wrth fyw'n annibynnol dwi wedi dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr ac rwy'n fwy doeth fy myd. Mae cysylltiadau diwydiant cryf y Brifysgol wedi fy ngalluogi i ennill profiad ymarferol a datblygu sgiliau meddal a thechnegol a fydd heb os yn hynod ddefnyddiol i mi yn y dyfodol. Rwyf hefyd wedi dysgu pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, trwy gydbwyso fy nghyfrifoldebau academaidd â bywyd cymdeithasol a lles personol iach.

Ond yn fwy na dim, mae Prifysgol Abertawe wedi meithrin ymdeimlad o wydnwch ynof fi, gan roi'r gallu i mi oresgyn heriau a ffynnu wrth wynebu adfyd. Penderfynu astudio ym Mhrifysgol Abertawe yw un o'r penderfyniadau gorau yr wyf erioed wedi'i wneud.

Mae cwmni croesawgar cyd-fyfyrwyr o Zimbabwe wedi gwneud iddo deimlo fel cartref oddi cartref, gan ennyn ymdeimlad o gysur a pherthyn. Rwy'n gwerthfawrogi’r addysg arbennig, y cyfleoedd ar gyfer twf personol, a'r ffrindiau gydol oes dwi wedi creu yn ystod fy amser yma. Mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i greu’r person rydw i heddiw, ac rwy'n ei hargymell yn fawr i unrhyw un sy'n ceisio profiad prifysgol trawsnewidiol a chyfoethog.