Hoa Xuan Thi Nguyen

Hoa Xuan Thi Nguyen

Gwlad:
Fietnam
Cwrs:
MA Chwarae Datblygiadol A Therapiwtig

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd bod gen i ddiddordeb yn y modiwlau yn y cwrs, y profiad o wneud ymchwil a'r cymorth gwych gan Undeb y Myfyrwyr.

Allet ti ddweud wrthym am dy gwrs a beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf?

Mae fy nghwrs yn helpu i ddarganfod sut mae plant yn dysgu ac yn meithrin eu sgiliau drwy chwarae, gan gynnwys gwybyddiaeth, iaith, rhyngweithio cymdeithasol... Fel partner chwarae, gallwn ni eu helpu i oresgyn eu problemau seicolegol.

Un peth rydw i'n mwynhau fwyaf yw teimlo fy mod i'n chwarae pan rydw i'n dysgu'r cwrs.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?

  • Costau byw: Mae pris rhesymol gan bopeth yma o'i gymharu â dinasoedd eraill lle gall costau byw fod yn eithafol
  • Mae pobl mor gyfeillgar
  • Rwy'n dwlu ar fyd natur, rydw i'n meddwl ei fod yn dda ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol

A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?

Byddwn, yn bendant. Gwnes i argymell bod rhai o fy ffrindiau yn cyflwyno cais i Brifysgol Abertawe ar gyfer y flwyddyn nesaf.