Haikaeli Gilliard Kinyamagoha

Haikaeli Gilliard Kinyamagoha

Gwlad:
Tanzania
Cwrs:
MSc Rheolaeth Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid)

Rwy’n gwerthfawrogi awyrgylch hamddenol y ddinas a natur gyfeillgar ei phobl. Hefyd, rwy’n mwynhau’r harddwch naturiol, o fynd am dro hamddenol ar y traeth ger campws y Bae i archwilio Parc Singleton a cherdded ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Sut y clywsoch chi am Brifysgol Abertawe?

Flwyddyn yn ôl, doeddwn i ddim yn gwybod am ei bodolaeth hyd nes i Hema, rhywun arall o Tanzania sydd wedi derbyn ysgoloriaeth Chevening ac a raddiodd gyda gradd meistr o Brifysgol Abertawe yn 22/23, fy nghyflwyno i’r brifysgol tra’r oeddwn yn archwilio opsiynau posibl ar gyfer fy astudiaethau. Roedd yn canmol y brifysgol, y cwrs roedd wedi’i ddewis a dinas Abertawe.

Er i mi nodi ei argymhellion, gwnes i ymchwil fy hun i benderfynu a oedd Prifysgol Abertawe yn cyd-fynd â’m dewisiadau. Yn y pen draw, roeddwn yn gweld ei bod yn bodloni fy meini prawf ac rwyf wrthi’n dilyn gradd meistr.

Pam y dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Roedd gen i dri phrif reswm dros ddewis Prifysgol Abertawe:

Yn gyntaf, roeddwn yn gwerthfawrogi’r pwyslais ar brofiadau dysgu ymarferol ac ymdrin â sefyllfaoedd y byd go iawn. Roedd ymweliadau â diwydiant, dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr a dadansoddi cwmnïau go iawn, data o’r byd go iawn a sefyllfaoedd cyfredol yn rhoi sicrwydd i mi y byddai’r sgiliau y byddwn yn eu caffael yn gallu cael eu cymhwyso’n uniongyrchol y tu hwnt i aseiniadau’r ystafell ddosbarth.

Yn ail, nodais gyfle i wella fy sgiliau entrepreneuraidd. Fel sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol cyfres Balcony, sef platfform sy’n defnyddio creadigrwydd ar gyfer newid cymdeithasol ym maes iechyd a grymuso economaidd, gwelais fod menter Prifysgol Abertawe yn weithgar wrth gefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, o syniadau cychwynnol i greu cynnyrch gweladwy. Mae’r brifysgol yn cynnal digwyddiad pwysig, lle mae myfyrwyr yn cael cyfle i gyflwyno eu syniadau busnes, ac mae rhai o’r mentrau yn derbyn cyllid, mentoriaeth, neu’r ddau. Mae’r cymorth hwn yn ymestyn y tu hwnt i raddio drwy’r Cynllun Dechrau Busnes i Raddedigion, sy’n darparu cymorth parhaus i raddedigion wrth iddynt lansio eu busnesau.

Yn drydydd, datblygodd fy nghysylltiad â’r ddinas wrth i mi ddysgu mwy am Abertawe. Roedd ei hawyrgylch hamddenol, i ffwrdd o brysurdeb dinas fawr, ynghyd â sawl oriel gelf ac amgueddfa, yn apelio ymhellach ataf, fel un sy’n hoff iawn o gelf ac yn guradur. Yn ystod y pedwar mis ers i mi ddod yma, rwyf wedi cael cyfle i ymdrochi mewn celf pryd bynnag mae fy amserlen wedi caniatáu hynny.

A allwch chi ddweud wrthym am eich cwrs a’r hyn rydych chi’n ei fwynhau fwyaf?

Yr hyn rwyf yn ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs yw’r elfen dysgu cydweithredol. Mae’r nifer bach o chwe myfyriwr yn y dosbarth yn rhoi cyfle i ddatblygu rhyngweithiadau manwl ac mae ein hathrawon yn arbenigwyr yn eu meysydd. Mae ganddynt nifer o flynyddoedd o brofiad sy’n golygu bod y profiad dysgu cyffredinol yn fy nghyfoethogi. Hefyd, mae adnoddau amrywiol ar gael i gefnogi fy nhaith ddysgu, gan gynnwys gweithdai ar ysgrifennu adroddiadau a sgiliau cyflwyno, ymhlith eraill.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?

Yn sicr! Mae gan y brifysgol gymuned amrywiol o fyfyrwyr rhyngwladol o bob rhan o’r byd, sy’n sicrhau na fyddwch yn teimlo’n unig. Gan fod dros 150 o gymdeithasau, gan gynnwys tua 26 o gymdeithasau diwylliannol a rhyngwladol, mae’n hawdd cysylltu ag unigolion o’r un anian a sefydlu rhwydwaith cymorth. Os ydych yn fyfyriwr Chevening, mae gennym hefyd rwydwaith ar gyfer ysgolorion Chevening Cymru, sy’n gallu rhoi cymorth i chi. Mae safon yr addysg a’r cymorth sydd ar gael yn golygu bod Prifysgol Abertawe yn ddewis delfrydol ar gyfer llwyddiant yn eich ymdrechion academaidd a phroffesiynol.