Francisco Gross

Francisco Gross

Gwlad:
Brasil
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Ar ôl 12 mlynedd o ymarfer, gan gynnwys 4 blynedd yn ymdrin ag achosion cyfraith fasnach a morol ryngwladol, dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn dilyn argymhellion cadarn gan gyn-fyfyrwyr a chydweithwyr yn y diwydiant. 

Rwyf yn gwbl fodlon ar y dewis hwnnw. Rwyf eisoes wedi astudio 2 radd meistr ond dyma oedd y radd meistr fwyaf heriol ac ymestynnol a astudiwyd gennyf, ond roedd yn bendant yn werth chweil.  Mae lefel y wybodaeth rwyf wedi’i meithrin yn ystod y cwrs LLM yn eithriadol, gan ategu’r profiad a gefais wrth ymarfer. Mae pob un o’r darlithwyr yn hyddysg iawn ac yn cyflwyno eu gwybodaeth mewn ffordd heriol a brwdfrydig. Maent yn eich herio i ragori a dyna, yn fy marn i, yw hanfod addysgu. Hefyd, mae’r arholiadau yn canolbwyntio ar broblemau ymarferol sy’n golygu bod yr Adran hon yn wahanol i Adrannau Ôl-raddedig eraill. Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn Abertawe yn fawr, a bu fy ymdrechion eleni yn bendant yn werth chweil.