Emily Richardson

Emily Richardson

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
LLB Y Gyfraith

Y peth gorau am astudio yn yr ysgol yw pa mor gynhwysol mae e'n teimlo. Rwyt ti'n cael dy ysgogi i gymryd rhan ac mae rhywbeth sy'n gweddu pawb.

Rwyf wedi dadlau ar ran y Brifysgol fel rhan o'r Gymdeithas y Bar, sydd nid yn unig wedi bod yn lot o hwyl, ond sydd hefyd wedi rhoi cyfle unigryw i fi i brofi profiad eiriolaeth a fydd yn werthfawr iawn ar gyfer fy C.V. Rydw i hefyd wedi bod yn rhan o Gymdeithas Y Gyfraith, sy'n cynnig cyfleoedd gwych i rwydweithio.  

Mae Abertawe yn cynnig cymaint o wahanol gyfleoedd wrth astudio ac yn helpu wedi i chi raddio. Ar gyfer darpar fyfyrwyr, rydw i'n teimlo bod hyn yn beth pwysig i ystyried, oherwydd yn y pen draw mae angen i chi fod mor barod â phosibl ar gyfer y byd ar ôl prifysgol. Mae Abertawe yn mynd y cam ychwanegol yna er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael y dechreuad gorau.