Ashish Dwivedi

Ashish Dwivedi

Gwlad:
India
Cwrs:
MPhil Llenyddiaeth Saesneg

Canfod fy llais fel ymchwilydd ac arweinydd y dyfodol mewn cymuned fyd-eang

Mae'r Ymchwilydd ôl-raddedig Ashish Dwivedi (MPhil yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau) yn trafod sut mae ei amser ym Mhrifysgol Abertawe wedi ei alluogi i gymdeithasu mewn cymuned fywiog, ryngwladol ac ôl-raddedig, ychwanegu at ei CV ac olrhain ei ddiddordebau personol.

Mae fy ymchwil MPhil yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn canolbwyntio ar animeiddiadau, yn enwedig o Japan, a sut gall yr animeiddiadau hyn gynnig lleoedd newydd i blant gymdeithasu ynddynt. Cyn imi ddod i Abertawe, cwblheais i fy ngradd Meistr mewn Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Lucknow yn yr India.

Cefais fy nenu i Brifysgol Abertawe oherwydd fy ngoruchwyliwr, y mae ei ddiddordebau ymchwil (mewn ffuglen wyddonol a'r dyniaethau digidol) yn cyd-fynd â’m  rhai i. Mae wedi bod yn hynod gefnogol ac yn amyneddgar yn ein cyfarfodydd, boed yn bersonol neu dros Zoom.

Mae'r gymuned ryngwladol yma ym Mhrifysgol Abertawe yn enfawr. Ac mae'r Brifysgol yn mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod y myfyrwyr rhyngwladol yma yn cael yr amser gorau posib. Mae'n gwneud ymdrech enfawr i ddathlu ei chymuned amlddiwylliannol.

Rwy'n berson o flas cymysg, felly roedd Abertawe, fel lleoliad, yn baradwys i mi. Nid yw'n rhy drefol nac yn rhy wledig - mae'n rhoi'r union ymdeimlad o lonyddwch a hwyl sydd eu hangen arnaf. Syrthiais mewn cariad â'r ddinas ar unwaith. Mae blas diwylliannol iddi, mae gennych y Mwmbwls a Gŵyr, stori'r Swansea Jack...ac nid oeddwn yn sylweddoli bod y Brifysgol mor agos at y traeth!

Un o'r pethau cyntaf y sylwais arno am y Brifysgol oedd nifer y cymdeithasau cymdeithasol academaidd sydd ganddi - dros 100 ohonynt. Des yn aelod gweithgar o Gymdeithas Theatr Shoreline. Rydym yn perfformio dramâu a ysgrifennwyd gan ein haelodau neu ddramâu clasurol, megis Hamlet. Bu'n ffordd wych i gwrdd â phobl newydd, gan fod yr holl bobl sy'n frwdfrydig am y theatr yn dod ynghyd ar un llwyfan!

Mae'r gymuned ymchwil ôl-raddedig yma'n trefnu digwyddiadau coffi cymdeithasol i drafod eich ymchwil gyda chyd-ymchwilwyr, neu hyd yn oed i gael sgwrs ddeallusol, gyflym. Mae'r gymuned yn llawn ysgolheigion anhygoel, o ystod o ddisgyblaethau, y mae ganddynt eu lleisiau a'u safbwyntiau pwerus eu hunain.

Rwyf wedi cymryd rhan yn y rhan fwyaf o hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig a gynhaliwyd yma, a oedd yn llawn ysbrydoliaeth i mi. Mae hyfforddiant a chefnogaeth Prifysgol Abertawe'n canolbwyntio ar wella eich sgiliau ymchwil a'ch cyflogadwyedd.

Ymysg fy hoff atgofion yma oedd pan gefais fy ethol yn Llysgennad Myfyrwyr, ac yna'n Gynrychiolydd Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig. Gwnaeth y rolau hyn fy helpu i ddeall yn well sut roedd y Brifysgol yn gweithio, a'm galluogi i fod yn llais ar gyfer y corff o fyfyrwyr. 

Roeddwn hefyd yn gallu archwilio fy niddordebau proffesiynol yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Gwirfoddolais yng Ngŵyl Bod yn Ddynol, a drefnwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau y DU a'r Academi Brydeinig, a arweiniodd ataf yn cyflwyno cais am interniaeth SPIN taladwy gyda'r Sefydliad Diwylliannol, gan weithio ar Wobr Dylan Thomas, uchel ei bri.  

Hoffwn ddychwelyd i'r Brifysgol hon i weithio yn y dyfodol!