Kieran

Kieran ydw i a fi yw Swyddog LGBTQ Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Mae’r gymuned LGBTQ+ yn dyst i drallod bob dydd gan amrywiaeth o gyfeiriadau. Rwyf wedi gweld a phrofi’r trallodion hyn yn bersonol ac mae rhai o’r rhain yn faterion â’u gwreiddiau yn y gymuned a rhai ohonynt yn faterion sy’n deillio o bobl nad ydynt yn derbyn y gymuned.  

Ers dod i Abertawe, rwyf wedi gwthio fy hun y tu allan i’m parth cysur drwy ddod yn Swyddog LGBTQ+ ar gyfer Campws Parc Singleton a thrwy ennill etholiad er mwyn gallu parhau yn y rôl hon yn yr ail flwyddyn. Mae’r rôl hon wedi fy ngalluogi i weithio gyda phobl anhygoel ar yr ymgyrch hanes LGBTQ+ yn ogystal â’r Diwrnod Amlygrwydd Trawsrywioldeb. 

Fel Swyddog Undeb y Myfyrwyr, rwy’n dwlu ar gael mynediad at adnoddau a chyllid sy’n caniatáu i mi wneud gwahaniaeth trwy gynnal amrywiaeth o ymgyrchoedd a bod yn llais dros y gymuned.

Mae gan Abertawe gymuned LGBTQ gryf iawn. Mae’n agos iawn ac mae pawb yn adnabod ei gilydd, felly rydych chi’n teimlo eich bod chi’n perthyn i’r teulu bach hwn a ddewiswyd.