Mae Canolfan Iechyd y Brifysgol yn Ganolfan Meddygaeth Gyffredinol GIG sydd wedi’i lleoli ar gampws y Brifysgol ac sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyfeillgar a chynhwysfawr gyda chanolbwynt ar anghenion myfyrwyr.

Mae gwasanaethau'n cynnwys cyngor ar atal cenhedlu, beichiogrwydd, iechyd rhywiol, HIV / AIDS, meddygaeth chwaraeon a chlinig teithio, yn ogystal ag iechyd emosiynol.d

Mae'n bwysig cofrestru â meddyg cyn gynted ag yr ydych yn cyrraedd yn Abertawe er mwyn cael mynediad at ofal GIG. Mae angen i'r holl fyfyrwyr sy'n byw ym Mhreswylfeydd y Brifysgol (ar y campws, Tŷ Beck a Phentref Hendrefoelan) gofrestru â Meddyg Teulu lleol o fewn pythefnos ar ôl cyrraedd. Gallwch gofrestru â meddyg oddi ar y campws os yw hynny'n well gennych.

SYLWER BOD COFRESTRU AR GYFER Y GANOLFAN IECHYD YN BROSES AR WAHÂN I GOFRESTRU AR GYFER Y DEINTYDDFA.

Lleoliad: Llawr gwaelod, Penmaen, Campws Singleton
Rhif ffon: +44 (0) 1792 295 321

I gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut i gofrestru, ewch i wefan y practis: https://universityhealthcentreswansea.nhs.wales/

Oriau'r Meddygfa

Mae'r feddygfa ar agor drwy gydol y flwyddyn o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am - 6:30pm (ac eithrio Gwyliau Banc) 

Apwyntiadau, (neu unrhyw ymholiadau eraill) yn cael eu cyrchu drwy 'Ask My GP' (ar gael rhwng 8am a 3pm), cysylltwch â’r feddygfa drwy’r ddolen ar hafan gwefan y Ganolfan Iechyd. Fe fydd y clinigwr/gweinyddwr priodol yn penderfynu a oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb arnoch neu a ellir delio â'r broblem dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Ar gyfer unrhyw broblemau brys y tu allan i’r amseroedd hyn hyd at 6.30pm, ffoniwch 01792 295321.

Llinell frys y Feddygfa 01792 205069 Ar gyfer argyfwng yn unig.

Salwch a chyngor meddygol

8am - 6.30pm, Llun - Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc): Defnyddiwch 'Ask my GP' 8y.b – 3y.p neu os yw'ch problem yn un brys cysylltwch â'r feddygfa ar 01792 295321 y tu allan i'r amseroedd hyn hyd at 6.30pm.

Ar gyfer gwasanaeth y Tu Allan i Oriau pan mae'r feddygfa ar gau, bydd rhif am ddim i gleifion ei ddefnyddio i gael mynediad at gyngor meddygol neu fynediad at wasanaethau meddygol pan mae meddygfeydd meddygon teulu ar gau - y rhif yw 111

Mewn argyfwng, ffoniwch 999