Mae University Dental Care yn cynnig ystod lawn o driniaethau GIG a Phreifat. Mae ar agor i fyfyrwyr, staff, y cyhoedd a theuluoedd. Mae lleoedd GIG ar gael i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar ddechrau’r tymor academaidd, ond mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.

Mae'r gwasanaeth yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y gwyliau.

Mae hawl gan yr holl gleifion dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru i dderbyn archwiliadau deintyddol am ddim. Sylwer y caiff ffioedd eu codi ar gyfer unrhyw driniaeth ddeintyddol arall dan y GIG oni bai bod yr unigolyn sy'n derbyn y driniaeth dan 19 oed (mewn addysg lawn-amser) neu fod ganddo/ganddi Dystysgrif Eithrio - mae ffurflenni hawlio cymorth â chostau iechyd ar gael yn y deintyddfa.

Lleoliad: Tŷ Horton (23 ar fap y campws) 
Ffôn: +44 (0) 1792 602222 Est. 2222

Cyngor Deintyddol Brys (y tu allan i oriau):

Dylai cleifion GIG ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111 os yw'r ddeintyddfa ar gau.

Am ragor o wybodaeth, gweler apwyntiadau

E-bost:  hello@udc.wales
Gwefan: www.universitydentalcare.co.uk

Llinell Gymorth “Oddi Cartref” i gleifion sydd wedi'u cofrestru gyda Chynllun Gofal Deintyddol UDC.

Y DU: 0800 525 631

Dramor: +44 1747 820 841

Oriau agor y deintyddfa:

O bryd i'w gilydd, caiff oriau agor arbennig (trefniadau cau, gwyliau ayyb) eu postio ar wefan Gofal Deintyddol y Brifysgol.

Llun 08.30-16.30
Mawrth 08.30-16.30
Mercher 08.30-16.30
Iau 08.30-16.30
Gwener 08.30-15.30

Deintyddion: Gayathri Kini, Maria Efraimidou, Owen Emanuel 

Hylenydd: Cathryn Wilde, Kamima Chipongo

Cydlynydd Practis: Hannah Morrissey

Staff Deintyddol: Francesca Wendes, Abby Pridmore, Lauren Cornwell 

Derbynnydd: Danielle Davies

Mae'n bwysig eich bod yn cofrestru â deintydd cyn gynted ag yr ydych yn cyrraedd yn Abertawe er mwyn cael mynediad at ofal GIG a gallu cael apwyntiadau cynnar os oes problemau neu achosion brys yn codi. Mae Cofrestru am ddim i'r holl gleifion dan 25 oed. Codir ffi fach o £14.70 i fyfyrwyr dros 25 oed.

Mae Triniaeth Breifat ar gael i gleifion a hoffai elwa o Ofal Preifat ar sail talu wrth fynd neu drwy ymuno â Chynllun Gofal y Ddeintyddfa. 

SYLWER BOD COFRESTRU GYDA'R DEINTYDDFA YN BROSES AR WAHÂN I GOFRESTRU Â'R GANOLFAN IECHYD