Dr Shane Heffernan

Uwch-ddarlithydd, Sport and Exercise Sciences
Swyddfa Academaidd - A128
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cwblhaodd Dr Heffernan radd israddedig mewn Gwyddor Ymarfer Corff a Chwaraeon, mae ganddo MSc mewn Ffisioleg Ymarfer Corff a PhD mewn Geneteg Molecwlaidd o Brifysgol Fetropolitan Manceinion (MMU) a PGCtHE o Brifysgol Abertawe. Tra'i fod yn MMU, archwiliodd amrywiad genetig moleciwlaidd ffenoteipiau dynol o ffisioleg perfformiad i feinwe meddal ac anaf i'r ymennydd, gan ddefnyddio athletwyr elît fel y model arbrofol. Ar yr un pryd, ac yn gweithio gyda chydweithwyr MMU, ymchwiliodd i gysylltiadau amrywiolion genynnau gyda ffenoteipiau cyhyrau dynol manwl in vivo. Yn 2017, penodwyd Shane i gymrodoriaeth ymchwil Ôl-Ddoethurol yng Ngholeg Prifysgol Dulyn (UCD), Iwerddon. Yn UCD, ymchwiliodd i ymyriadau maetheg a maethfferyllol ar gyfer llid a newid symptomatig mewn Osteoarthritis yng nghymal y pen-glin.

Ar hyn o bryd mae'n ddarlithydd gwadd cyswllt yn Ysgol Iechyd y Cyhoedd, Ffisiotherapi a Gwyddor Chwaraeon, UCD lle mae'n addysgu ar y radd Gwyddor Iechyd a Pherfformiad (modiwl Gwyddor Ymarfer Molecwlaidd; pwnc, Genomeg Ymarfer Corff a Chwaraeon).

Mae Shane wedi cydweithio â chydweithwyr o bob cwr o'r byd ac wedi cyhoeddi yn y cyfnodolion academaidd gorau ar bynciau fel maetheg mwynau, geneteg foleciwlaidd, ffisioleg cyhyrau ac athletwyr elît, Osteoarthritis a maethfferyllolion. Mae'n edrych ymlaen at barhau ac ehangu'r gwaith hwn ym Mhrifysgol Abertawe fel aelod o'r Ganolfan Ymchwil Technoleg a Meddygaeth Gwyddor Chwaraeon Gymhwysol (A-STEM).

Meysydd Arbenigedd

  • Maetheg a maethfferyllolion ar gyfer Osteoarthritis a phoen pen-glin
  • Maetheg mwynau mewn iechyd a pherfformiad athletaidd
  • Maetheg sy'n seiliedig ar blanhigion ar gyfer ffenoteipiau iechyd a chyhyrau
  • Ffisioleg athletwyr elît gwrywaidd a benywaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

SR-143_Dulliau a Moeseg Ymchwil
SR-146_Biomecaneg a Thechnoleg B
SR-147_Cryfhau a Chyflyrru
SR-333_Chwaraeon, Deiet a Chlefydau
SR-311_Traethawd Ynchwil Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Ymchwil Prif Wobrau