Dr Elizabeth Sackett

Dr Elizabeth Sackett

Uwch-ddarlithydd, Materials Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - A211
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Elizabeth Sackett yn ddarlithydd yn y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n cydweithio'n agos â Tata Steel UK ar hyn o bryd ar wahanol agweddau ar feteleg dur a phrosesu. Mae ei phortffolio addysgu’n ymdrin â phynciau ar amrywiaeth eang o systemau metelig datblygedig.

Enillodd Elizabeth ei PhD mewn Gwyddoniaeth Deunydd a Pheirianneg ar ludded saib Ti685, a noddwyd gan Lu Awyr yr Unol Daleithiau. Mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad mewn ymchwil ôl-raddedig a masnachol ar ddetholiad eang o aloion a chyfansoddion ac mae wedi cyhoeddi mewn amrywiaeth o gyfnodolion rhyngwladol. Mae Elizabeth wedi cydweithio gyda mwy na 30 o gwmnïau rhyngwladol blaenllaw, gan gyfrannu at ddatblygu a goruchwylio prosiectau. Ar hyn o bryd, mae ffocws ei hymchwil yn archwilio priodweddau mecanyddol deunyddiau mewn perthynas â nanobantiad gan gynnwys straen gweddilliol a mapio straen. Elizabeth yw arweinydd Athena SWAN ar gyfer y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Lludded
  • Ymgripiad
  • Mesur straen
  • Straen gweddilliol
  • Nanobantiad