Dr Bernard Mostert

Dr Bernard Mostert

Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol Ffotofoltäig, Physics

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Derbyniais gymrodoriaeth COFUND dan gynllun Cymrodoriaeth Marie-Curie, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd o dan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae fy ymchwil yn cwmpasu dwy adran (Ffiseg a Chemeg), a dau sefydliad ymchwil gan gynnwys canolfan NanoHealth a rhaglen Sêr SAM (dyma’r rhaglen rwy’n ymwneud â hi fwyaf). Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud yn bennaf â’r maes Bioelectroneg a bio-ïonig, sy'n cynnwys creu defnyddiau newydd, deall a nodweddu'r defnyddiau hyn ac yna profi eu defnydd mewn dyfeisiau gweithredol. Mae'r gwaith yn Abertawe canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu dyfeisiau ïon organig / electronig cypledig sy'n gallu synhwyro signalau ïonig a'u trosglwyddo i signalau electronig i'w rhyngwynebu ag electroneg lled-ddargludyddion confensiynol. Y nod yw creu dyfeisiau prototeip ar gyfer diagnosteg feddygol.

Meysydd Arbenigedd

  • Bioelectroneg
  • Cyseiniant paramagnetig electronau
  • Cyseiniant sbin miwonau
  • Gwasgariad niwtronau
  • Mesuriadau cludiant gwefru
  • Rheoli hydradiad yn y fan a’r lle
  • Bioddefnyddiau mewn anhrefn
  • Cludo gwefru electron-ïon cypledig

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cemeg Ffisegol - Thermodynameg