Yaseen AL-Begali

Yaseen AL-Begali

Gwlad:
Yemen
Cwrs:
MSc Seiberddiogelwch

Fi yw Yaseen AL-Begali, myfyriwr MSc Seiberddiogelwch o Yemen.

Rwyf wedi dewis Prifysgol Abertawe am sawl reswm: un ohonynt yw ei bod yn cynnig cymorth eithriadol i fyfyrwyr rhyngwladol er gwaethaf eu diwylliannau, eu crefyddau a’u cefndiroedd gwahanol.

Y cwrs Seiberddiogelwch yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae wedi’i ardystio’n llawn gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Rwyf wedi fy synnu gan y staff cymwysedig iawn yn fy nghwrs a’r ffordd o ddysgu p’un ai mewn darlithoedd neu waith labordy. Gweithio yn y labordy Seiberddiogelwch yw un o’r pethau rwy’n ei fwynhau fwyaf yn fy nghwrs. Mae’r cynorthwywyr labordy gwasanaethgar a chlên pob amser yn barod i arwain a rhoi cymorth i ddygymod ag unrhyw heriau.

Rhai o fy hoff bethau rwy’n eu caru am Abertawe: fel lle i fyw wrth astudio, mae’n un o ddinasoedd mwyaf diogel y DU, ac mae’r bobl yn garedig iawn ac yn hawdd dod ymlaen â nhw. Fel Mwslim, nifer y mosgiau yn y ddinas yw un o fy hoff bethau am Abertawe. Yn ogystal, mae nifer o opsiynau Halal ar gael mewn llawer o fwytai a marchnadoedd. Am y rhesymau hynny, rwy’n argymell Prifysgol Abertawe’n fawr i fyfyrwyr rhyngwladol.