Tara Murphy

Tara Murphy

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BA Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg

Ces i gyfle i gymryd rhan mewn interniaeth yn adeilad Llywodraeth Talaith Tecsas lle bues i'n gweithio i un o Seneddwyr y Dalaith o San Antonio.

Roedd fy nghyfrifoldebau'n cynnwys ymchwil polisi mewn perthynas â deddfwriaeth bosib, ysgrifennu areithiau ar gyfer y Seneddwr, esbonio deddfwriaeth i etholwyr, ysgrifennu datganiadau i'r wasg a lobïo swyddogion eraill y dalaith ar ran etholwyr.

Ces i gyfle hefyd i awgrymu a drafftio bil cyflog cyfartal i'w gyflwyno i'r Senedd, a oedd yn brofiad gwych!