Rabhia Khan

Rabhia Khan

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
MSc Astudiaethau Cydymaith Meddygol

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  • Y traethau trawiadol
  • Lleoedd bwyd a chaffis unigryw (hufen iâ Joe's)
  • Cae blodau haul Rhosili!

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Dewisais i astudio yn Abertawe oherwydd y golygfeydd naturiol hardd, mae cael traeth yn union gyferbyn â'r campws yn atyniad enfawr! Mae'r ysgol feddygaeth uchel ei pharch, sydd ar y brig yn y DU, yn rhoi sicrwydd mawr imi fod ansawdd yr addysgu ymysg y gorau yn y wlad gyfan. Mae fy nghwrs yn cael ei ariannu'n llawn gan y GIG ac fel myfyriwr ôl-raddedig, mae cael y cymorth hwn yn bendant wedi fy helpu i wneud fy mhenderfyniad i astudio yn Abertawe.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Mae sesiynau sgiliau clinigol ddydd Gwener yn gymaint o hwyl, rydyn ni'n dysgu popeth o sut i chwistrellu anesthesia (i orenau!) a thoriadau pwythau, i ddysgu prif nodweddion rhywun sy'n profi methiant y galon a'r archwiliad priodol i'w gymryd. Mae pawb yn y garfan mor gyfeillgar ac a bod yn onest mae'n swnio'n ystrydebol ond mae'n teimlo fel un teulu mawr, rydyn ni'n cynnal sesiynau adolygu rheolaidd i helpu ein gilydd. Mae'r lleoliad gwaith hefyd yn wych, mae'r bwrlwm o weithio mewn ysbyty neu feddygfa a gweld eich cleifion eich hun gyda'r oruchwyliaeth glinigol a'r cymorth yn gwneud i chi deimlo eich bod eisoes yn gymwysedig ac yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Personol.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwy'n gobeithio gweithio fel meddyg cymwysedig mewn gofal eilaidd.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, yn bendant! Mae Abertawe'n ddinas mor fywiog a hardd, mae cymaint i'w wneud a'i weld.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Rwy'n is-lywydd y gymdeithas Cydymaith Meddygol sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen i ddarpar fyfyrwyr yn ogystal â threfnu gweithgareddau hwyl a sesiynau cymdeithasol i fyfyrwyr Cydymaith Meddygol presennol.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?
Rwy'n byw mewn llety myfyrwyr preifat, ac rydw i wedi mwynhau hynny'n aruthrol. Mae bod mor agos at ganol y ddinas a'r traeth wedi bod yn wirioneddol wych.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, mae gweithio fel myfyriwr llysgennad yn ffordd gyffrous o gwrdd ag unigolion newydd o'r un meddylfryd ac mae hefyd wedi bod yn ffordd llawn hwyl o siarad â'r darpar fyfyrwyr newydd am fy mhrofiadau o astudio yn Abertawe. Roeddwn yn falch iawn y gallwn i rannu fy mrwdfrydedd am astudio'r cwrs Cydymaith Meddygol â myfyrwyr newydd drwy amrywiaeth o weminarau a diwrnodau agored. Rydw i hefyd wedi dechrau gweithio fel brechwr COVID ar gyfer Bae Abertawe yn ddiweddar sydd wedi rhoi profiad clinigol gwych i mi a gwybodaeth am systemau ysbytai, a bydd hyn yn fy helpu'n aruthrol gyda fy ngyrfa yn y dyfodol fel Cydymaith Meddygol.

Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Ces i gymorth ar gyfer caledi ariannol gan imi wynebu rhywfaint o ansicrwydd yn ystod fy astudiaethau. Roedd y tîm yn gymwynasgar i mi, gan fy nhywys ar hyd pob cam o'r broses. Diolch byth, mae'r gefnogaeth wedi lleddfu rhai o'm beichiau ariannol ac wedi fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy astudiaethau. Rydw i mor ddiolchgar am y gefnogaeth a ges i.