Muftau Baruwa o flaen y Coleg Peirianneg

Muftau Baruwa

Gwlad:
Nigeria
Cwrs:
MSc Peirianneg Electronig a Thrydanol gyda Diwydiant

Enw: Muftau Baruwa 
 
Pwnc:  MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol 
 
Cenedligrwydd: Nigeraidd (cyfeiriad cartref yng Nghymru)

Pam ddewisais di astudio MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol? 

Cefais fy ngradd gyntaf mewn Peirianneg Drydanol, felly penderfynais wella fy ngwybodaeth yn yr un maes drwy ddilyn gradd Meistr, sy'n hybu fy rhagolygon swyddi ar yr un pryd. Ymhen 3 mis ar ôl cwblhau fy ngradd Meistr roeddwn i'n gallu sicrhau swydd yn fy maes astudio. 

Beth oedd dy hoff beth am dy gwrs?  

Roedd gen i dri atgof melys am fy nghwrs a oedd wedi'i wneud yn bleserus ac yn werth chweil: 

  1. Roedd y darlithwyr yn hygyrch iawn, felly roedd modd i mi gwrdd â nhw er mwyn egluro meysydd anodd cyn yr arholiadau. Gwnaeth hyn hybu fy mherfformiad a chefais Ragoriaeth yn fy ngradd Meistr. 
  2. Roedd llawer o gyfarpar yn y llyfrgell ac amrywiaeth o fannau astudio ar gyfer astudio'n unigol neu mewn grŵp.  
  3. Roedd rhai nodiadau o ddarlithoedd ar gael ar Blackboard (mae Canvas ar gael nawr) cyn y dosbarth, felly roedd modd i mi baratoi cyn y dosbarthiadau, ac roedd hyn yn gwneud y darlithoedd yn hawdd i'w dilyn ac yn fwy rhyngweithiol. 

Pam penderfynais di astudio am radd ym Mhrifysgol Abertawe?  

Roedd gan Brifysgol Abertawe'r pynciau craidd mewn Peirianneg Drydanol a oedd o ddiddordeb penodol i fi yn fy ngradd Meistr. Roedd mynediad i'r ystafelloedd gweddïo aml-ffydd yn ddeniadol i mi hefyd. 

Beth rwyt ti'n ei fwynhau orau am Abertawe a Phrifysgol Abertawe?  

Mae Abertawe yn ddinas heddychlon, ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw o yrwyr tacsis i berchnogion siopau a gweithwyr proffesiynol o fri wedi bod yn hyfryd iawn, sy'n gwneud Abertawe'n gartref oddi cartref. 

Pa gyngor byddet ti'n ei roi i rywun sy'n meddwl astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe?  

Os ydych chi am amgylchedd llonydd ar gyfer dysgu a datblygu, gyda thraeth gerllaw er mwyn ymlacio ar adegau, rydw i'n credu'n gryf mai Abertawe yw eich dewis gorau.  

Pam penderfynais di wneud Ymchwil Ôl-raddedig yn Abertawe? Wyt ti'n mwynhau? 

Roeddwn i'n awyddus i ddod yn arbenigwr yn fy maes, felly penderfynais ddilyn gradd ymchwil ôl-raddedig. Roedd gen i oruchwylwyr rhagorol a oedd yn darparu arweiniad a chymorth parhaus drwy gydol y rhaglen. Ar hyn o bryd rydw i'n crynhoi, ac roedd modd imi gyhoeddi sawl papur mewn cyfnodolion blaenllaw.  

Beth wyt ti’n cynllunio/gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau dy Ymchwil Ôl-raddedig?  

Rydw i'n gobeithio gweithio i gymhwyso'r wybodaeth a'r arbenigedd rydw i wedi'u cael yn y diwydiant, er mwyn sicrhau ein bod yn newid yn hwylus o ynni a systemau trafnidiaeth sy'n seiliedig ar danwyddau ffosil, i systemau trafnidiaeth ac ynni cynaliadwy, sero-net.