Ellie Griffith

Ellie Griffith

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BA Daearyddiaeth

Dewisais Abertawe er mwyn byw gartref, ac astudio, ac oherwydd ei sgôr uchel am Ddaearyddiaeth.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Un o fy hoff bethau am y cwrs yw'r hyblygrwydd wrth ddewis modiwlau. Roedd modd i mi ddewis modiwlau daearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth ddynol.

Sut brofiad oedd astudio yn ystod y pandemig?

Roedd y flwyddyn gyntaf yn anodd: roedd llawer o gyfyngiadau COVID o hyd yn 2021, ac o ganlyniad roedd cymdeithasu ychydig yn fwy heriol. Fodd bynnag, roedd yr ail flwyddyn yn teimlo ychydig yn fwy normal, roedd y dewis o deithiau maes daearyddiaeth a oedd ar gael yn golygu y gallen ni gwrdd â mwy o bobl ar ein cwrs. Mae'r drydedd flwyddyn wedi mynd mor gyflym a dyma’r flwyddyn fwyaf gwobrwyol.

Sut mae eich darlithwyr wedi eich cefnogi drwy eich astudiaethau?

Po hiraf y byddwch yn astudio yn Abertawe, y mwyaf y byddwch yn dod i adnabod y darlithwyr. Pryd bynnag rydw i wedi cael problem, mae'r darlithwyr bob amser wedi bod yno i helpu. Yn enwedig gyda'r traethawd hir, roedd ein grwpiau mentora yn ddefnyddiol.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?

  • Y traeth - mae lleoliad y Brifysgol yn wych ar gyfer Campws Singleton a'r Bae.
  • Y caffis/bwytai - mae yna lawer o fusnesau lleol, mae bob amser yn dda eu cefnogi!
  • Bywyd nos - mae Stryd y Gwynt yn brofiad gwych!

Ydych chi wedi gwneud lleoliad gwaith fel rhan o'ch cwrs

Cwblheais leoliad gwaith am 35 awr fel rhan o fodiwl yn fy nhrydedd flwyddyn, sef modiwl Gwyddoniaeth a Chyfathrebu (BIO352). Yn ystod y lleoliad gwaith hwn, cymerais ran weithredol mewn tri Diwrnod Agored Gwyddoniaeth a Pheirianneg a threuliais amser ychwanegol yn y swyddfa Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol (MRI) ar gyfer Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Drwy gymryd rhan yn y diwrnod agored, ces i gyfle i ymgysylltu â myfyrwyr llysgennad a darpar fyfyrwyr Daearyddiaeth a oedd yn ymweld â'r Brifysgol. Roedd gweithio yn y tîm marchnata yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i wella fy sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm. Gan gydweithio â myfyriwr arall, gwnaethom greu cynnwys ar gyfer platfformau cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol. Heb os, bydd y sgiliau y gwnes i eu meithrin a'u mireinio yn ystod y lleoliad gwaith hwn o fudd i mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?

Yn fy ail flwyddyn, roeddwn yn aelod o'r gymdeithas gelf. Roedd yn wych cael ymlacio a chwrdd â myfyrwyr eraill â diddordebau tebyg. Mae gan Abertawe gynifer o gymdeithasau i ddewis ohonynt!!

Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe?

Dydw i ddim wedi ymuno ag unrhyw dimau neu glybiau chwaraeon, ond rydw i wedi mynd i Varsity, sef y gystadleuaeth flynyddol rhwng Abertawe a Phrifysgol Caerdydd. Rwy'n argymell mynd, mae'n gymaint o hwyl.

Beth rydych chi'n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?

Rwy'n bwriadu gwneud rhywfaint o deithio a rhoi amser i mi fy hun i benderfynu ar fy nghamau nesaf. Dydw i ddim eisiau rhuthro i mewn i unrhyw beth. Mae'r Brifysgol mor brysur, a bydd yn braf camu'n ôl o hyn a chymryd peth amser a gweld lle bydda i wedyn!

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

Yn bendant byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe i unrhyw un! Mae cymaint o gefnogaeth gan staff y Brifysgol.