Davina Binji

Davina Binji

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BA Daearyddiaeth

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Ar ôl astudio Daearyddiaeth ar Safon Uwch, roedd y pwnc o ddiddordeb penodol i mi, ond roedd yn well gen i'r testunau dynol na'r rhai ffisegol. Roedd sylweddoli fy mod i'n gallu astudio'r agweddau ar ddaearyddiaeth roeddwn i'n eu mwynhau'n gymhelliant allweddol wrth ddewis y radd. O ganlyniad i'r pandemig, doeddwn i ddim wedi mynd i unrhyw un o ddiwrnodau agored y Brifysgol, ond roedd ymweld â dinas Abertawe'n flaenorol wedi creu’r argraff arna i y byddwn i'n fodlon yno.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Gan fy mod i yn fy mlwyddyn olaf, rwy'n dwlu ar hyblygrwydd y cwrs a'r ffaith fy mod i'n gallu dewis beth hoffwn i ei astudio. Doeddwn i byth yn awyddus i wneud pethau fel gwaith Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol gan ddefnyddio'r cyfrifiadur, a oedd yn orfodol yn ystod blynyddoedd astudio blaenorol, ond rwyf bellach yn rheoli fy modiwlau a galla i ddewis y rhai hynny sydd o'r diddordeb mwyaf i mi, ac mae hynny’n gwneud i mi deimlo y bydd fy mherfformiad yn gwella.

Sut mae eich darlithwyr wedi eich cefnogi drwy eich astudiaethau?

Yn fy mhrofiad i, mae’r darlithwyr bob amser yn hapus i gynorthwyo os oes gennych chi gwestiynau.
Maen nhw'n hapus i drafod ymholiadau ar ôl i ddarlith orffen, ond mae hi hefyd yn hawdd iawn cysylltu â nhw drwy e-bost. Maen nhw hefyd yn hapus i drafod marciau arholiadau â chi a rhoi adborth personol, felly rydych chi'n gwybod am feysydd i'w gwella mewn asesiadau yn y dyfodol. Roedd fy mentor yn arbennig o wych wrth i mi astudio am fy nhraethawd hir. Pe bawn i'n e-bostio fy mhryderon ato, byddai'n ymateb yn brydlon i mi ac roedd ef bob amser yn hapus i drefnu galwad Zoom neu gyfarfod ar y safle i drafod cynnydd.

Beth yw eich hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?

Rwy'n hanu o Ganolbarth Lloegr, felly mae bod yn agos at draeth yn hollol ddieithr i mi ... mwy na thebyg, mae'n rhaid gyrru am dair awr o'm tŷ i gyrraedd y traeth agosaf. Mae cael traeth ar draws y ffordd o'r campws yn anhygoel, ac yn rhywbeth na fu ar gael i mi’n hwylus erioed. Yn ystod y misoedd cynhesach, mae mynd i'r traeth yn wych! Mae'r bwytai lleol ger Abertawe'n anhygoel, ac mae fy hoff le tecawê Tsieineaidd yn y byd yma ... byddwn i'n gweld ei eisiau pan fydda i'n graddio!

Wnaethoch chi gyflwyno cais drwy Glirio?

Do. Roeddwn i wedi cyflwyno cais yn wreiddiol i astudio cwrs hollol wahanol pan wnes i lenwi fy ffurflen gais UCAS. Fodd bynnag, ar ôl cyflwyno fy nghais, sylweddolais i efallai na fyddai hyd a lleoliad y cwrs o'm dewis yn iawn i mi. Er i mi gael fy nerbyn gan brifysgol roeddwn i wedi cyflwyno cais iddi ar ddiwrnod y canlyniadau, penderfynais i wrthod y lle er mwyn mynd drwy Glirio. Pan ffoniais i Brifysgol Abertawe, siaradais i â menyw hynod gymwynasgar a gwnaeth hi fy llywio drwy'r broses o gael fy nerbyn – ac yna roeddwn i'n gallu ymdrin â phethau fel dewis llety, ond yn gyffredinol roedd hi'n broses hawdd dros ben yn hytrach na bod yn rhywbeth i boeni yn ei gylch.

Ydych chi wedi ymgymryd ag unrhyw deithiau maes fel rhan o'ch cwrs?

Yn ystod yr ail flwyddyn, cafodd myfyrwyr daearyddiaeth ddewis ble i fynd ar daith maes fel rhan o fodiwl. Dewisais i fynd i Berlin ac roedd hi'n daith hollol wych. Gan i ni deithio yno ar goets, cawson ni gyfle i dreulio noson yn yr Iseldiroedd ar y ffordd yno, ac yng Ngwlad Belg ar y ffordd yn ôl. Gwnes i feithrin cyfeillgarwch â chyd-fyfyrwyr ar y cwrs, ac rydyn ni'n dal i fod yn agos. Roedd yr ymweliad â'r Amgueddfa Iddewig yn weithgaredd arbennig o drawiadol, ac roedd y bwyd yn Berlin yn anhygoel.