Christy Mathew

Christy Mathew

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 

Dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd bod enw da iawn ganddi ym maes Meddygaeth ac Iechyd. Mae fy nghwrs yn unigryw ynddo'i hun oherwydd yn wahanol i gyrsiau Iechyd y Cyhoedd eraill, mae'n addysgu am hybu iechyd: sef dull ymarferol sy'n gallu bod yn ddechrau gwych ar gyfer fy ngyrfa! Yn olaf, mae'r cwrs hwn yn sicrhau achrediad gan y llywodraeth i fyfyrwyr sy'n llwyddo yn y cwrs.

Allet ti ddweud wrthym am dy gwrs a beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf?

Roeddwn i'n llawn cyffro i ddeall y maes iechyd penodol hwn, felly mae mynd i ryngweithio â'm hathrawon, sy'n brofiadol iawn ac yn rhannu eu gwybodaeth helaeth â ni, yn rhan o fy mreuddwyd. Rydw i'n byw fy mreuddwyd. Rydw i'n dwlu ar y darlithoedd a'r anecdotau maen nhw'n eu rhannu. Mae'r aseiniadau'n waith caled ond yn rhoi boddhad mawr i ehangu fy nealltwriaeth am y pwnc.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?

Rydw i'n dwlu ar gampws y Brifysgol, sydd yn union beth roeddwn i'n ei ddisgwyl! Rydw i wrth fy modd gyda'r bywyd nos i fyfyrwyr ar nos Fercher! Fy holl ffrindiau newydd a fy HOLL gyd-fyfyrwyr (mor gymwynasgar a chymdeithasol), maen nhw'n gwneud Abertawe'n lle prydferth i mi! Yn olaf ond nid y lleiaf, rhaid i mi sôn am brydferthwch golygfaol tiroedd Cymru sy'n dal eich llygaid ac yn eich adfywio.

A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?

Yn bendant! Heb os nac oni bai. Mae sawl cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol, o ran cyllid neu leoliadau gwaith ar gyfer eich gyrfa. Dylai llawer mwy o fyfyrwyr sy'n ei haeddu fanteisio ar y fraint hon.