Trosolwg
Ym Mhrifysgol Abertawe mae Ellen yn ddarlithydd mewn cyfrifeg a chydlynydd modiwlau ar gyfer nifer o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig ac hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen BSc Cyfrifeg ac Arweinydd Grŵp Ffocws MSc. Cwblhaodd Ellen ei chwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion ym 1999 ac mae hi’n Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.
Yn ystod ei 20 mlynedd fel darlithydd cymwysedig, mae wedi cyflwyno amrywiaeth o bynciau mewn nifer o sefydliadau addysgol.
Ymgysylltu â myfyrwyr yw ei phrif faes ymchwil sy'n canolbwyntio ar wella profiad myfyrwyr drwy gyflwyno addysgu o safon ac ymgysylltu'n llwyddiannus â myfyrwyr i'w hysgogi i gyflawni eu potensial addysgol unigol.
Yn ystod ei hamser yn Abertawe mae wedi bod yn anrhydedd iddi dderbyn cymeradwyaeth gan fyfyrwyr am ansawdd ei haddysgu. Yn wir, mae ei gyrfa fel darlithydd proffesiynol wedi canolbwyntio'n sylweddol ar y dysgwr, ac mae ei dull llunyddol o addysgu yn estyniad o'i diddordeb personol-proffesiynol mewn, ac angerdd dros, ymgysylltu â myfyrwyr. Mae adborth myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn galonogol ac yn gadarnhaol, ac mae hynny’n cadarnhau ei methodolegau addysgu.