Mae i astudio’r iaith Gymraeg hanes anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe. Ymhlith ysgolheigion amlwg Adran y Gymraeg, gellir enwi’r Athrawon Henry Lewis, T. J. Morgan a D. Ellis Evans a aeth ymlaen i’r Gadair Geltaidd yn Rhydychen. Un arall o’r arloeswyr ym maes iaith ydoedd Stephen J. Williams, ac yn ein hoes impact ni, pan roddir bri ar waith ymchwil sy’n cyrraedd y cyhoedd, gallwn werthfawrogi mor flaengar oedd cyhoeddiad megis Beginner’s Welsh (1934), yn ceisio ennill siaradwyr newydd i’r iaith. Dyma ragredegydd i un arall o impactwyr mawr yr adran, Heini Gruffudd, sefydlydd Rhieni dros Addysg Gymraeg a Chadeirydd presennol Dyfodol i’r Gymraeg.

Sefydlwyd ALAW (Applied Linguistics and Welsh) yn 2017 gan Steve Morris a Tess Fitzpatrick. Un o brosiectau mawr y fenter yn ddiweddar yw CorCenCC, prosiect uchelgeisiol rhwng sawl sefydliad a ariannwyd gan yr ESRC a’r AHRC i sefydlu corpws cenedlaethol a chyfoes i’r Gymraeg. https://corcencc.cymru

At hyn, cyhoeddodd Steve Morris lyfr nodedig ar arddulleg y Gymraeg, ar y cyd â Kevin Rottet: Comparative Stylistics of Welsh and English: Arddulleg y Gymraeg. https://www.uwp.co.uk/book/comparative-stylistics-of-welsh-and-english

Mae llawer o’n gwaith ym maes iaith yn ymwneud ag addysg a’r gymuned. Un darn diweddar o waith sydd wedi cryn dipyn o sylw yw adroddiad Simon Brooks ar ail gartrefi yng Nghymru: https://www.swansea.ac.uk/media/Ail-Gartrefi_-Datblygu-polisiau-newydd-yng-Nghymru---Terfynol.pdf Cyhoeddodd hefyd lyfr yn ddiweddar sy’n edrych ar Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig yn y Gwareiddiad Cymraeg.

Archwilir thema debyg yng ngwaith Gwennan Higham, a enillodd Fedal Dillwyn, Cymdeithas Ddysgedig Cymru am ei gwaith arloesol yn y maes. Ymhlith ei chyhoeddiadau yn y maes hwn y mae ei llyfr, Creu Dinasyddiaeth i Gymru: Mewnfudo Rhyngwladol a’r Gymraeg. Bu Gwennan hefyd yn rhan o brosiect rhyngwladol a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, prosiect COMBI (Competences for Migrants and Disadvantaged Background Learners in Bilingual Work Environments), https://combiproject.eu/conference-migrants-minority-languages

Yng ngwaith R. Gwynedd Parry, archwilir thema arall, sef hawliau iaith a deddfwriaeth. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Cymru’r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol, a sawl ysgrif, gan gynnwys, ‘Is breaking up hard to do? The case for a separate Welsh jurisdiction’ yn The Irish Jurist.

Ymhlith ein cyhoeddiadau ym maes dysgu’r Gymraeg y mae’r gyfres Geirfa Graidd. Dyma, er enghraifft, Geirfa Graidd Canolraidd gan Steve Morris, Paul Meara a Tess Fitzpatrick: https://questionbank.wjec.co.uk/qualifications/welsh-for-adults/welsh-for-adults-intermediate/Geirfa%20Canolradd%20Ionawr%202019.pdf?language_id=2

Comisiynwyd ymchwilwyr o Abertawe gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu adroddiad ar ddulliau addysgu ail iaith effeithiol. Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth: Ymagweddau a Dulliau Addysgu Ail Iaith Effeithiol: file:///C:/Users/Teacher/Downloads/Cymraeg-Fitzpatrick,Morris,Clark,Mitchell,Needs,Tanguay,Tovey2018-EffectiveSecondLanguageTeachingApproachesMethods.pdf

Ymchwilio ym maes addysg y mae Alex Lovell hefyd, un arall a oedd yn rhan o dîm CorCenCC. Dyma recordiad o gyflwyniad a draddododd ar le’r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd: https://www.youtube.com/watch?v=N6_jfta4oso

Enghraifft arall o greu deunydd dysgu yw Llawlyfr Meistroli’r Gymraeg gan Tudur Hallam, prosiect a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=3905~4r~SBdFPxeY

Fidoes a phodlediadau

Cyhoeddi adroddiad ar ail gartrefi, Simon Brooks

https://ne-np.facebook.com/NewyddionS4C/videos/rhybudd-y-gallai-heriau-ail-gartrefi-ddwys%C3%A1u/136926855056066/

Seminar ar ail gartrefi yng Nghymru, Simon Brooks

https://www.youtube.com/watch?v=Y897vpKRemY