Terms and Conditions

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyflwyno ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dau gynllun yn bodoli:

Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg Abertawe 2026-27:

  • Mae’r ysgoloriaethau ar agor i fyfyrwyr newydd ac i fyfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol sy’n dewis astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle yn hytrach na thrwy’r Saesneg
  • Mae 46 o ysgoloriaethau o £300 ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy mewn blwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Dim ond ar gyfer un flwyddyn y caiff yr ysgoloriaeth ei rhoi i bob myfyriwr sydd yn llwyddiannus. Bydd angen cyflwyno cais newydd yn y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn derbyn ysgoloriaeth bellach. Ni ellir cario ysgoloriaeth ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf.
  • Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg; Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol; a'r Gyfadran Meddugaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Eithrir myfyrwyr y BA Cymraeg gan mai Cymraeg yw iaith y cwrs hwnnw yn gyfangwbl ac mae ysgoloriaethau eraill penodol gan Adran y Gymraeg i'w cynnig. Mae rhestr o bynciau cymwys ar ein gwefan.
  • Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr Lefel Sylfaen, 4, 5, 6 a 7 ar gyfer 2026-27 yn unig.
  • Dyrennir yr ysgoloriaethau trwy gystadleuaeth. Bydd rhaid i bob myfyriwr gwblhau ffurflen gais a chaiff y cyllid ei ddyrannu ar sail perfformiad graddau Lefel A neu y flwyddyn flaenorol o astudio yn y brifysgol ac ar sail datganiad personol yn y cais.
  • Tra bod y cynllun yn agored i fyfyrwyr ôl-raddedig, ni fydd Ysgoloriaethau yn cael eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd eisoes wedi ymgeisio a derbyn bwrsariaethau pwnc-benodol gan Lywodraeth Cymru.
  • Gosodir amod ynghlwm wrth y cynllun hwn, sef bod disgwyl i’r myfyriwr sydd yn derbyn ysgoloriaeth weithredu fel llysgennad ar ran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd angen i’r unigolyn fod ar gael i gyfrannu at waith hyrwyddo’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhlith myfyrwyr a darpar fyfyrwyr trwy lwyfannau megis Diwrnodau Agored, ymweliadau ysgolion ac yn y blaen. Ad‐delir costau teithio allai fod ynghlwm wrth y gwaith hwn. Mae'n bosib hefyd y gofynnir i'r deiliad ysgoloriaeth ddarparu gwybodaeth ar gyfer proffil ohonynt fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a rhannu eu profiadau a'u hargraffiadau at bwrpasau hyrwyddo eu cwrs neu'r Brifysgol.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn aelodau o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am wybodaeth ac er mwyn ymaelodi, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk/ymaelodi. Ni chaiff ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ddim yn aelodau eu hystyried.
  • Bydd gofyn i ymgeiswyr nodi pa fodiwlau y maent wedi cofrestru i’w hastudio a gall y rheini fod o fewn maes eu pwnc gradd neu y tu hwnt (gyda chytundeb Cyfarwyddwr y cwrs gradd a astudir).
  • Telir yr ysgoloriaeth mewn un taliad, ar ddiwedd semester dau. Cynhelir dathliad ym mis Rhagfyr ar gyfer enillwyr yr ysgoloriaethau hyn.

 

 Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg 2026-27:

  • Mae’r bwrsariaethau ar agor i fyfyrwyr newydd ac i fyfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol sy’n dewis astudio rhan o’u gradd trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cynigir bwrsariaeth o £100 i rai sydd yn dilyn o leiaf 5 credyd o fodiwl o trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae 7 bwrsariaeth ar gael eleni.
  • Y meysydd cymwys ar gyfer y cynllun hwn yw Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, cwrs TAR Athrawon Cynradd, Astudiaethau Busnes, Biowyddorau, Cemeg, Cyfryfiadureg, Fferylliaeth, Ffiseg, Peirianneg a Mathemateg.
  • Dim ond ar gyfer un blwyddyn y caiff y fwrsariaeth ei rhoi i bob myfyriwr sydd yn llwyddiannus – mi fydd angen cyflwyno cais newydd yn y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn derbyn bwrsariaeth bellach. Ni ellir cario bwrsariaeth ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf.
  • Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr Lefel Sylfaen, 4, 5, 6 a 7 ar gyfer 2026-27 yn unig.
  • Cystadleuaeth fydd hon. Bydd rhaid i ymgeisydd gyflwyno cais a chaiff y cyllid ei ddyrannu ar sail perfformiad graddau Lefel A neu y flwyddyn flaenorol o astudio yn y brifysgol ac ar y datganiad personol fydd yn y cais.
  • Bydd gofyn i ymgeiswyr nodi pa fodiwlau y maent wedi cofrestru i’w hastudio ag iddynt elfen cyfrwng Cymraeg a gall y rheini fod o fewn maes eu pwnc gradd neu y tu hwnt (gyda chytundeb Cyfarwyddwr y cwrs gradd a astudir).
  • Caiff y fwrsariaeth ei thalu i’r myfyriwr ar ddechrau semester dau. Cynhelir dathliad ym mis Rhagfyr ar gyfer enillwyr yr ysgoloriaethau hyn.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn aelodau o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am wybodaeth ac er mwyn ymaelodi, ewch i colegcymraeg.ac.uk/ymaelodi. Ni chaiff ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ddim yn aelodau eu hystyried.

 

Mae’r Cwrs Datblygu Gyrfa ar gael i’ch helpu chi i wneud cais am yr ysgoloriaethau. Mae ei uned ‘Ffurflenni Cais a Datganiadau Personol’ yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol i’ch helpu chi i ysgrifennu cais cryf.

Mae gan y cwrs 16 uned sy’n canolbwyntio ar bynciau gwahanol, gan gynnwys:

  • Cwblhau ffurflenni cais a datganiadau personol
  • Ysgrifennu CVs, proffil LinkedIn a llythyrau eglurhaol
  • Paratoi ar gyfer cyfweliadau
  • Eich opsiynau gyrfa
  • Chwilio am swyddi
  • Gwneud penderfyniadau

Cofrestrwch ar y cwrs a dysgu mwy yma!

 

Ymholiadau pellach

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â

Indeg Llewelyn Owen, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol