-
PM-138
Skills for being a Medical Scientist
The aim of this module is to provide students with an initial experience of what it is to be a modern medical scientist, from the initial experimental planning, to performing experiments within the laboratory with data acquisition and analysis and finally to the communication of scientific findings to a wider audience.
Students will develop basic skill sets in the four most important research skill areas of practical laboratory skills, data analysis, collaboration and communication. The module will be both theoretical and applied, where the student will be instructed in methods essential for data acquisition and data analyses but will also actively participate in the laboratory, using broadly applicable experimental techniques. In addition, students will learn about health and safety within a laboratory environment and the current ethics regulations surrounding the use of humans, human tissue and animals within medical research.
Furthermore, students will develop their communication skill sets not only through essay writing but also will develop their oral presentation skill set and their collaboration skills through a group presentation and tutorial classes.
-
PM-138C
Sgiliau ar gyfer Gwyddorau Meddygol
Nod y modiwl hwn yw cynnig profiad cychwynnol i fyfyrwyr o waith gwyddonydd meddygol modern, o gamau cychwynnol cynllunio arbrofion, i gynnal arbrofion mewn labordy ynghyd â chasglu a dadansoddi data ac, yn olaf, gyfleu'r canfyddiadau gwyddonol i gynulleidfa ehangach.
Bydd myfyrwyr yn datblygu set o sgiliau sylfaenol yn y pedwar maes sgiliau ymchwil pwysicaf sef sgiliau labordy ymarferol, dadansoddi data, cydweithio a chyfathrebu. Bydd y modiwl hwn yn un damcaniaethol a chymhwysol, lle bydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi mewn dulliau sy'n hanfodol ar gyfer casglu a dadansoddi data ond hefyd bydd disgwyl iddynt gymryd rhan yn y labordy, gan ddefnyddio dulliau arbrofol â chymhwysiad eang. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn dysgu am iechyd a diogelwch mewn amgylchedd labordy a'r rheoliadau moeseg presennol o ran y defnydd o bobl, meinwe dynol ac anifeiliaid mewn ymchwil feddygol.
Ar ben hynny, bydd myfyrwyr yn datblygu eu set o sgiliau cyfathrebu nid yn unig drwy ysgrifennu traethodau ond byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau cyflwyno llafar a'u sgiliau cydweithio drwy gyflwyniad gr¿p a dosbarthiadau tiwtorial.
-
PM-150
Introductory Biochemistry
The module provides a broad study of the interactions between chemical processes and biological systems. It addresses the chemical processes used by organisms to utilize chemicals for energy production, structural functions and as building blocks of macromolecules.
-
PM-150C
Biocemeg Gyflwyniadol
Mae'r modiwl yn darparu astudiaeth eang o'r rhyngweithiadau rhwng prosesau cemegol a systemau biolegol. Mae'n ymdrin â'r prosesau cemegol a ddefnyddir gan organebau i fanteisio ar gemegau at ddiben cynhyrchu egni, at ddibenion strwythurol ac fel blociau adeiladu macromoleciwlau.
-
PM-161
Cell Biology
Cells are the fundamental units of life, forming the basis of all biological systems. This module provides a comprehensive introduction to cell biology, covering both eukaryotic and prokaryotic cells, their origins, and their evolutionary significance. Students will explore the molecular building blocks of life, gaining insight into how atoms and molecules combine to form essential macromolecules, ultimately giving rise to cells.
The module examines the organization and function of eukaryotic cells, focusing on key organelles such as the nucleus (genetic regulation), mitochondria (energy production), cytoskeleton (structural support and transport), endoplasmic reticulum (protein processing), and Golgi apparatus (lipid processing). Students will also explore cell-to-cell communication via ligands and receptors, as well as the mechanisms of controlled cell death (apoptosis). Additionally, the module covers specialized eukaryotic cells, including those of the nervous and immune systems, as well as the role of stem cells in development.
Prokaryotic cell biology will be explored in depth, covering the structure, function, and diversity of bacteria and archaea. Topics include cell envelope composition, motility, defense mechanisms, communication strategies, and adaptation to extreme environments. The module will also highlight the significance of prokaryotes in health, disease, and biotechnology. Furthermore, students will examine non-living entities such as viruses and bacteriophages, comparing their unique properties with those of eukaryotic and prokaryotic cells.
Through a combination of lectures, laboratory sessions, and workshops, this module will provide students with both theoretical knowledge and practical skills in cell biology, emphasizing its relevance to human health and scientific research.
-
PM-161C
Bioleg Celloedd
Celloedd yw unedau sylfaenol bywyd, gan ffurfio sylfaen yr holl systemau biolegol. Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i fioleg celloedd, gan gynnwys celloedd ewcaryotig a phrocaryotig, eu tarddleoedd, a'u harwyddocâd esblygol. Bydd myfyrwyr yn archwilio seiliau bywyd moleciwlaidd, gan ennill dealltwriaeth o sut mae atomau a moleciwlau yn cyfuno i ffurfio macrofoleciwlau hanfodol, sydd yn y pen draw yn achosi i gelloedd ddatblygu.
Mae'r modiwl yn archwilio trefniadaeth a swyddogaeth celloedd ewcaryotig, gan ganolbwyntio ar organynnau allweddol megis y cnewyllyn (rheoleiddio genetig), mitocondria (cynhyrchu egni), cytosgerbwd (cymorth a chludiant strwythurol), reticwlwm endoplasmig (prosesu protein), a'r organigyn Golgi (prosesu lipidau). Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio cyfathrebu rhwng celloedd drwy gyfrwng ligandau a derbynyddion, yn ogystal â dulliau marwolaeth celloedd a reolir (apoptosis). Yn ogystal, mae'r modiwl yn cynnwys celloedd ewcaryotig arbenigol, gan gynnwys rhai y system nerfol a'r system imiwnedd, yn ogystal â rôl bôn-gelloedd sy'n datblygu.
Archwilir bioleg celloedd procaryotig mewn manylder, gan drafod strwythur, swyddogaeth, ac amrywiaeth bacteria ac archaea. Mae pynciau'n cynnwys cyfansoddiad cell amlen, symudoldeb, mecanweithiau amddiffyn, strategaethau cyfathrebu, ac addasu i amgylcheddau eithafol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn amlygu pwysigrwydd procaryotau mewn iechyd, afiechyd, a biotechnoleg. Ar ben hynny, bydd myfyrwyr yn archwilio endidau anfyw megis firysau a bacterioffagau, gan gymharu eu priodoleddau unigryw â phriodoleddau celloedd ewcaryotig a phrocaryotig.
Drwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau mewn labordy, a gweithdai, bydd y modiwl hwn yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol mewn bioleg celloedd i fyfyrwyr, gan bwysleisio ei berthnasedd i iechyd dynol ac ymchwil wyddonol.
-
PM-249C
Imiwnoleg Ddynol
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i fod yn gyflwyniad i imiwnoleg a'r system imiwnedd ddynol. Mae'r cwrs yn cyflwyno hanfodion imiwnoleg, gan gynnwys aflonyddiadau gweithrediadol sy'n gysylltiedig â chlefyd ac ymagweddau arbrofol at astudio imiwnoleg.
-
PM-250C
Clefydau heintus
Bydd y cwrs yn adeiladu ar sylfeini microbioleg ac yn cyflwyno pynciau newydd ym meysydd bacterioleg, mycoleg, firoleg a pharasitoleg. Mae Imiwnoleg Lefel 5 (PM-249) yn rhagofyniad. Mae'r cwrs yn ymdrin ag egwyddorion sylfaenol clefydau heintus, gan gynnwys agweddau clinigol, triniaeth/atal, ac ymagweddau arbrofol at astudio organebau heintus a pharasitig.
-
PM-254C
Meddygon, Cleifion a Nodau Meddygaeth
Amcan addysgol y modiwl yw galluogi'r myfyriwr i ystyried ymarfer cyfoes ym maes Meddygaeth yn y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn cynnwys deall y rheoliadau proffesiynol, y cyfyngiadau ariannol a'r heriau cymdeithasol a phersonol sydd ynghlwm wrth ymarfer meddygaeth a gweithgareddau gofal iechyd eraill.
-
PM-256
Communicating Medical Sciences
¿Nothing in science has any value if it is not communicated¿ (Anne Roe, 1904-1991). An important aspect of the role of scientists concerns the communication of complex scientific ideas and research to both scientist and non-scientist audiences. This module will build upon and explore methods of science communication, including journal papers, abstracts, podcasts (digital audio files), and posters. Students will also be introduced to science communication methods for non-scientist audiences, including public events and health campaigns. Students will be required to write and deliver a journal club podcast, and design an evidence-based public health awareness campaign.
-
PM-256C
Cyfathrebu ym Maes y Gwyddorau Meddygol
¿Nothing in science has any value if it is not communicated¿ (Anne Roe, 1904-1991). Mae agwedd bwysig ar rôl gwyddonwyr yn ymwneud â chyfleu ymchwil a syniadau gwyddonol cymhleth i gynulleidfaoedd sy'n cynnwys gwyddonwyr a rhai nad ydynt yn wyddonwyr. Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar ddulliau cyfathrebu gwyddonol, gan gynnwys papurau cyfnodolion, crynodebau, podlediadau (ffeiliau sain digidol) a phosteri, ac yn archwilio'r rheini. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i ddulliau cyfathrebu gwyddoniaeth ar gyfer cynulleidfaoedd nad ydynt yn wyddonwyr, gan gynnwys digwyddiadau cyhoeddus ac ymgyrchoedd iechyd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu a chyflwyno podlediad clwb cyfnodolion, a dylunio ymgyrch ymwybyddiaeth iechyd y cyhoedd ar sail tystiolaeth.
-
PM-262C
Therapi ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar egwyddorion therapi gwrthficrobaidd a datblygiad ymwrthedd. Dyma un o'r problemau pwysicaf sy'n wynebu meddygaeth fodern a bydd pwyslais clinigol gan y modiwl. Bydd y modiwl yn darparu dealltwriaeth o ddatblygiad, mecanweithiau a goblygiadau ymwrthedd gwrthficrobaidd ac egwyddorion rhagnodi a stiwardiaeth gwrthfiotigau priodol, gan roi sylw penodol i ymarfer clinigol cyfredol yn y DU. Bydd yn cynnwys ymwrthedd ymysg bacteria (gan gynnwys mycobacteria) a firysau. Defnyddir Astudiaethau Achos Clinigol i addysgu ffyrdd perthnasol o ddehongli profion.
-
PM-266C
Y System Gardiofasgwlaidd
Gan adeiladu ar fodiwl Ffisioleg Ddynol y flwyddyn gyntaf (PM-154), bydd y Modiwl Cardiofasgwlaidd yn cyflwyno ac yn diffinio'r mecanweithiau cellol sylfaenol sy'n rheoleiddio ffisioleg gweithrediad cardiofasgiwlaidd iach. Bydd y modiwl yn disgrifio'r prosesau sy'n galluogi gweithrediad iach curiad y galon a'r pibellau gwaed a sut gall aflonyddiadau yn y systemau a drafodir arwain at gyflyrau pathoffisiolegol. Bydd pwyslais ar ddulliau arbrofol a ddefnyddir i astudio'r mecanweithiau cardiofasgwlaidd a ddisgrifir.
-
PM-275C
Cyflwyniad i Niwrowyddoniaeth
Er mwyn helpu myfyrwyr i ddeall y sail fiolegol ar gyfer niwrowyddoniaeth ymddygiadol ac anhwylderau niwrolegol, mae'r modiwl hwn yn ceisio integreiddio bioleg celloedd, ffisioleg a biocemeg i ddeall egwyddorion sylfaenol niwrowyddoniaeth. Y nod yw meithrin gwybodaeth fecanistig a chyfannol o'r system nerfol sy'n adeiladu o'r lefel foleciwlaidd, gellog a datblygiadol, i lefel systemau. Yn ogystal ag archwilio gweithrediad normal, bydd y modiwl hwn yn cyflwyno anhwylderau cyffredin y brif systemau nerfol a pherifferol mewn ffordd integredig. Caiff myfyrwyr eu harwain i archwilio'r dystiolaeth wyddonol ynghylch yr hyn sy'n hysbys ac yn anhysbys a byddant yn cael cyflwyniad i ganfyddiadau ymchwil cyfredol yn y llenyddiaeth wyddonol.
-
PM-278
Carbohydrate and lipid metabolism
This module provides an in-depth exploration of the metabolic processes governing the major macronutrients carbohydrates and fatty acids. It focuses on the central biochemical pathways through which energy derived from food is converted into ATP, the cell¿s primary energy currency. Key pathways such as glycolysis, the citric acid cycle, and oxidative phosphorylation are examined in detail.
The module will also provide an understanding of tissue and organ specificity in metabolism. The module also covers the uptake and metabolism of glucose and other common carbohydrates, emphasizing their integration into central metabolic networks. Alternative and linked carbohydrate metabolic pathways, including the pentose phosphate pathway, the Entner-Doudoroff pathway, and glycogen metabolism are discussed, along with their relevance to health and disease.
In addition, the module covers the ß-oxidation and biosynthesis of fatty acids, with a focus on its clinical implications. Finally, the structural and functional roles of sugars in glycobiology are explored, particularly in the context of health and disease.
-
PM-278C
Metabolaeth carbohydrad a lipid
Mae'r modiwl hwn yn darparu archwiliad manwl o'r prosesau metabolig sy'n llywodraethu'r prif mfacrofaetholion, carbohydradau ac asidau brasterog. Mae'n canolbwyntio ar y llwybrau biocemegol canolog lle mae egni sy'n deillio o fwyd yn cael ei drawsnewid yn ATP, sef sail egni sylfaenol y gell. Archwilir llwybrau allweddol fel glycolysis, y cylch asid sitrig, a ffosfforyliad ocsideiddiol yn fanwl.
Bydd y modiwl hefyd yn darparu dealltwriaeth o benodolrwydd meinwe ac organau mewn metaboledd. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin â mewnlifiad a metaboledd glwcos a charbohydradau cyffredin eraill, gan bwysleisio sut cânt eu hintegreiddio i rwydweithiau metabolig canolog. Trafodir llwybrau metabolig carbohydrad amgen a chysylltiedig, gan gynnwys y llwybr ffosffad pentos, llwybr Entner-Doudoroff, a metaboledd glycogen, ynghyd â'u perthnasedd i iechyd a chlefydau.
Yn ogystal â hyn, mae'r modiwl yn cwmpasu ß-ocsideiddiad a biosynthesis asidau brasterog, gyda ffocws ar eu goblygiadau clinigol. Yn olaf, archwilir rolau strwythurol a swyddogaethol siwgrau mewn glycobioleg yn enwedig yng nghyd-destun iechyd a chlefydau.
-
PM-280
Skills for Researchers
The modern scientist graduate is expected to have gained extensive laboratory-based experience and this is certainly essential for any student intent on pursuing a research-based career. Skills for Researchers provides students with the opportunity to acquire the core skills to be able to conduct, analyse, interpret and present scientific experiments. A proportion of the module will be spent in the laboratory gaining hands-on experience. Skills acquired in this module will form the basis for future experimental work, including the final year project. Students will have the opportunity to provide feedback to peers and engage with a variety of online learning materials.
-
PM-280C
Sgiliau i Ymchwilwyr
Disgwylir i raddedigion gwyddoniaeth modern fod wedi ennill profiad helaeth mewn labordai, ac mae hyn yn bendant yn hanfodol ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy'n bwriadu ymgymryd â gyrfa sy'n seiliedig ar ymchwil. Mae Sgiliau i Ymchwilwyr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr feithrin y sgiliau craidd i allu cynnal, dadansoddi, dehongli a chyflwyno arbrofion gwyddonol. Treulir cyfran o'r modiwl yn y labordy yn ennill profiad ymarferol. Bydd sgiliau a addysgir yn ystod y modiwl hwn yn ffurfio'r sylfaen ar gyfer gwaith arbrofol yn y dyfodol, gan gynnwys y prosiect yn ystod y flwyddyn olaf. Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i roi adborth i gyfoedion ac ymgysylltu ag amrywiaeth o ddeunyddiau dysgu ar-lein.
-
PM-293
Neuroscience & Neurology
This module offers an integrated exploration of the nervous system by drawing on key concepts from cell biology, physiology, and biochemistry. Focusing on the structure and function of the human central and peripheral nervous systems, it bridges foundational neuroscience with clinical neurology. Students will examine both normal neural function and the pathophysiology of common neurological disorders, spanning molecular and cellular mechanisms to whole-system processes. Emphasis is placed on critical engagement with current scientific literature, encouraging students to assess established knowledge alongside emerging research. The module is delivered by a multidisciplinary team of neuroscientists and clinical neurologists, providing both theoretical insight and real-world clinical relevance.
-
PM-293C
Niwrowyddoniaeth a Niwroleg
Mae'r modiwl hwn yn cynnig archwiliad integredig o'r system nerfol gan dynnu ar gysyniadau craidd o fioleg celloedd, ffisioleg a biocemeg. Gan ganolbwyntio ar strwythur a gweithrediad systemau nerfol canolog a pherifferol dynol, mae'n pontio niwrowyddoniaeth sylfaenol a niwroleg glinigol. Bydd myfyrwyr yn archwilio gweithrediad niwral normal a phathoffisioleg cyflyrau niwrolegol cyffredin, sy'n cynnwys mecanweithiau moleciwlaidd a chellol i brosesau system gyfan. Rhoddir pwyslais ar ymgysylltu'n feirniadol â llenyddiaeth wyddonol gyfoes, gan annog myfyrwyr i asesu gwybodaeth sefydledig ochr yn ochr ag ymchwil sydd ar ddod. Mae'r modiwl yn cael ei gyflwyno gan dîm rhyngddisgyblaethol o niwrowyddonwyr a niwrolegwyr clinigol, gan ddarparu gwybodaeth ddamcaniaethol a pherthnasedd clinigol y byd go iawn.
-
PM-344
Capstone Project
The aim of this module is to provide a capstone experience to students¿ learning, through participating in their own enquiry-based research project, with guidance from an academic supervisor. The project may be laboratory or non-laboratory based, but it will always involve a research question that is drawn from the literature, and focused on a topic relevant to the life sciences. It will ask a research question and involve the critical analysis of research findings. Students will refine their oral and written communication skills to a graduate level through an oral presentation and dissertation on their research findings and conclusions.
-
PM-344C
Prosiect Capfaen
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad dysgu capfaen drwy gymryd rhan yn eu prosiect eu hunain yn seiliedig ar gwestiwn ymchwil. Gall y prosiect fod mewn labordy neu heb fod yn labordy ond bydd bob amser yn cynnwys cwestiwn ymchwil sy'n deillio o'r llenyddiaeth, ac sy'n canolbwyntio ar bwnc perthnasol i wyddor feddygol. Bydd yn gofyn cwestiwn ymchwil newydd ac yn cynnwys dadansoddiad beirniadol o ganfyddiadau ymchwil. Bydd myfyrwyr yn mireinio eu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig i lefel raddedig, drwy lunio cyflwyniad rhagarweiniol ar gefndir y prosiect, ynghyd â thraethawd estynedig a chyflwyniad llafar ar ganfyddiadau eu hymchwil.
-
PM-361C
Biowybodeg: O ddilyniant i swyddogaeth
Mae argaeledd cynyddol dilyniannau genom a data strwythur protein yn mynnu bod biolegwyr moleciwlaidd yn hyfedr wrth berfformio dadansoddiadau data helaeth i arwain a chefnogi ymchwil draddodiadol mewn labordy. Bydd y Modiwl hwn yn darparu sylfaen ddamcaniaethol a hyfforddiant ymarferol ar offer cyfrifiadol a ddefnyddir ar hyn o bryd i gydosod a holi dilyniannau genom, casglu swyddogaethau genynnau a phrotein, ac i archwilio data strwythur protein.
-
PM-366
Teaching Science
This module is for students with an interest in teaching, science communication, and medicine. Students will complete an enquiry-based research project, based within the field of pedagogy or science communication, with guidance from an academic supervisor. Projects may be completed in collaboration with local schools/colleges, community groups, science outreach programmes (e.g. Oriel Science), in clinical/patient settings, or within Higher Education. Students will engage with workshops and digital resources to introduce various themes surrounding pedagogy and science communication to prepare them for their research project. Students will be required to critically analyse their research findings and produce a teaching or outreach activity/resource. Students will refine their oral and written communication skills to graduate level through an oral presentation and dissertation.
-
PM-366C
Addysgu Gwyddoniaeth
Mae'r modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn addysgu, cyfleu gwyddoniaeth a meddygaeth. Bydd myfyrwyr yn cwblhau prosiect ymchwil sy'n seiliedig ar ymholiadau, ym maes addysgeg neu gyfleu gwyddoniaeth, o dan arweiniad goruchwyliwr academaidd. Gellir cwblhau prosiectau mewn cydweithrediad ag ysgolion/colegau lleol, grwpiau cymunedol, rhaglenni allgymorth gwyddoniaeth (e.e. Oriel Science), mewn lleoliadau clinigol/cleifion neu ym myd Addysg Uwch. Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â gweithdai ac adnoddau digidol i gyflwyno themâu amrywiol ynghylch addysgeg a chyfleu gwyddoniaeth i'w paratoi ar gyfer eu prosiect ymchwil. Gofynnir i fyfyrwyr ddadansoddi canfyddiadau eu hymchwil yn feirniadol a llunio gweithgaredd/adnodd addysgu neu allgymorth. Bydd myfyrwyr yn mireinio eu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig i lefel raddedig drwy roi cyflwyniad poster a llunio traethawd hir.
-
PM-405C
Llawysgrif/Erthygl Ymchwil Uwch
Mae'r prosiect ymchwil uwch yn elfen allweddol o'r flwyddyn astudio olaf, gan roi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o ymchwil arloesol yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd a'r Ganolfan NanoIechyd am gyfnod estynedig o amser. Bydd y prosiect yn seiliedig ar un o'r themâu ymchwil sy'n ymwneud â'r gwyddorau meddygol. Bydd myfyrwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau dadansoddi uwch i ymchwilio i bwnc penodol. Yn ogystal, cânt brofiad o lunio cynnig ymchwil a chyflwyno eu data mewn amrywiaeth o fformatau. Dynodir pynciau ymchwil sy'n briodol i deitl gradd penodol.