-
ED-M07
Evidence-Informed Practice
This module will explore the different ways in which evidence is presented and published and will examine how different forms of evidence inform professional behaviours and practices. The module will consider the different ways in which evidence is generated, accessed, and explored within different educational settings and contexts. It will examine how education professionals can access and interpret international evidence and how they can engage meaningfully and ethically with different types of evidence. The module will explore the ways in which the use of evidence can inform professional identity and collaborative relationships. It will examine how evidence can both inform practice and assist professionals in reflecting upon their practice.
-
ED-M12
Leading Organisational Change
This module will focus on the processes and practicalities of leading organisational change at the school and system level. It will explore key debates around theories of change and change management in relation to organizational improvement. This module will prepare students to critically examine the contribution of leadership in times of organisational change and uncertainty. It will equip them with the leadership knowledge and understanding to effectively lead and implement change within their context. The module will compare different approaches to organisational change both nationally and internationally, and the policy imperatives that influence such changes.
-
ED-M13
Pedagogy and Practice
This module focuses on the critical exploration of effective teaching and will explore key pedagogical concepts, models and theories. The module will offer contemporary pedagogical knowledge and will relate key learning theories to professional practice. It will enable students to evaluate, select and apply the appropriate learning and teaching strategies to specific learning situations. It will equip them to analyse and interpret a range of data about learning and learners. The module will support participants to reflect purposefully on their own pedagogic practices and the future teaching opportunities within their professional contexts.
-
ED-M15
Leading Within and Across Education Systems
System leadership within and across educational organisations is increasingly important to build the necessary professional capital and professional capacity for improvement. There is international evidence that when properly deployed, system leaders/ship can be a positive force for change. This module will focus on the leadership roles, functions, and responsibilities of those acting as system leaders, at different levels. The international evidence about system leaders/ship, however, consistently points to the need for clarity about:
¿ The definition, role, and functions of system leaders.
¿ The criteria for selection and the process of appointment.
¿ Core responsibilities and the expectations placed upon system leaders.
¿ The accountability structures and evaluative processes that surround their role as a system leader.
¿ Gauging the impact of system leaders/ship through agreed monitoring and evaluation processes.
Hence the 4 core strands of this module will cover the micro and macro aspects of leading within, across and between systems.
-
EDPM14
Dissertation
Supervised research dissertation on a topic chosen by students after consultation with academic staff.
-
EDQM01
Study Group: Education (MA)
2 hour weekly Study Group for MA Education students.
-
EDWD00
Traethawd Hir
Cynlluniwyd y modiwl traethawd hir i roi¿r sgiliau i¿r myfyrwyr ymgymryd â darn o waith ymchwil neu ymholi ar raddfa fach sy¿n berthnasol i¿w hymarfer addysgol. Bydd y modiwl yn cefnogi myfyrwyr i nodi maes o¿u hymarfer sy¿n briodol ar gyfer darn o waith ymchwil neu ymholi ar raddfa fach, llunio cwestiynau ymchwil priodol, dewis dulliau casglu data priodol, casglu data a chynnal dadansoddiad beirniadol o¿r data. Bydd y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ysgrifennu eu canfyddiadau a¿u cyflwyno mewn fformatau amrywiol. Mae¿r modiwl hwn yn ategu¿r modiwl Sgiliau Ymchwilio ac Ymholi Uwch sy¿n rhagofyniad ar gyfer ymgymryd â¿r traethawd hir
-
EDWM01
Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
Mae¿r modiwl hwn yn rhoi¿r sgiliau ymholi a¿r wybodaeth ymchwil uwch sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gwblhau gradd Feistr drwy roi iddynt y sgiliau ymchwil, ymholi a dadansoddi sy¿n angenrheidiol i ymgymryd â darn o ymchwil annibynnol yn eu cyd-destun eu hunain. Bydd y modiwl yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau arolygu llenyddiaeth, dylunio ymchwil, dadansoddiadau data a chynrychioli data a fydd yn cefnogi eu hymchwil bersonol a¿u gwaith ymholi. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi dealltwriaeth helaeth i fyfyrwyr o ymchwil ryngwladol ar wahanol bynciau yn ogystal ag athroniaeth ymchwil a dulliau o ymchwilio, ynghyd â ffyrdd o ddadansoddi ac arddulliau cyflwyno.
-
EDWM02
Anghenion Dysgu Ychwanegol - Rhagoriaeth mewn Ymarfer
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar arwain dulliau lleoliad cyfan ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y modiwl yn gofyn bod myfyrwyr yn myfyrio ar sut y gellir gweithredu newid i wella addysg gynhwysol ledled eu lleoliadau. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi enghreifftiau o arfer gorau ac yn myfyrio ar sut y gellir cymhwyso'r rhain i'w lleoliad eu hunain. Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o sut y gallant arwain newid cadarnhaol yn eu lleoliadau er mwyn gwella ymarfer cynhwysol. Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddangos rhagoriaeth mewn ymarfer fel CADY.
-
EDWM03
Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyfleoedd a phwrpas ymgysylltu cydweithredol mewn ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried y dystiolaeth ryngwladol o ran gwahanol fathau o gydweithredu proffesiynol a'i effaith ar ddysgwyr. Bydd y modiwl yn ategu pwysigrwydd creu amgylcheddau dysgu effeithiol lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu datblygu i'w botensial llawn. Bydd y model yn annog myfyrwyr i fyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer proffesiynol ac i nodi strategaethau effeithiol sy'n cefnogi lles, diogelu ac anghenion ehangach eu dysgwyr. Bydd y modiwl yn ystyried materion cynwysoldeb, tegwch a lles myfyrwyr a sut y gellir manteisio i'r eithaf ar y rhain drwy ddulliau ymarfer proffesiynol cydweithredol.
-
EDWM04
Cynllunio a Gwireddu Cwricwlwm
Mae¿r modiwl hwn wedi¿i gynllunio i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu¿n ddwfn â¿r cysyniadau a¿r ymchwil rhyngwladol sydd wedi hysbysu datblygiad diweddar y cwricwlwm yng Nghymru. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ystyried trefniadau cynllunio a gwireddu cwricwlwm mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys eu rhai eu hunain. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i werthuso gwahanol ddulliau o gynllunio cwricwlwm ac i werthuso¿n feirniadol y prosesau gweithredu amrywiol sy¿n cyd-fynd â newid cwricwlwm o fewn sefydliadau a systemau addysg.
-
EDWM05
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles mewn lleoliadau addysgol. Bydd yn archwilio¿n feirniadol yr ymchwil rhyngwladol ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles er mwyn archwilio¿r sylfaen dystiolaeth o sawl safbwynt ac o wahanol gyd-destunau. Bydd myfyrwyr yn archwilio ffactorau sy¿n effeithio ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles, a byddant yn gwerthuso¿n feirniadol ystod o ymyriadau cynnar mewn cysylltiad â hyrwyddo ac amddiffyn iechyd meddwl a lles plant / pobl ifanc, wrth archwilio hefyd y dystiolaeth ryngwladol o effeithiolrwydd ystod o fesurau ataliol. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso (pan fo¿n briodol) eu gwybodaeth am ddamcaniaethau ac ymchwil sy¿n ymwneud ag iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles i¿w cyd-destunau personol/proffesiynol
-
EDWM06
Tegwch ac Amrywiaeth
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o degwch, amrywiaeth ac effaith anghydraddoldeb ar ddeilliannau a phrofiadau addysgol. Bydd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth uwch yn seiliedig ar dystiolaeth o ddimensiynau amrywiaeth yng nghymdeithas gyfoes Cymru ac ar draws cyd-destunau a lleoliadau rhyngwladol. Bydd y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol am y mathau o anghydraddoldeb sydd o fewn addysg gyfoes a chymryd rhan mewn dadleuon a wrthwynebir ynghylch sut y mae systemau addysg yn nodi anghydraddoldeb ac yn defnyddio strategaethau sy¿n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i¿r afael ag anghydraddoldeb. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio¿n feirniadol ar ddadleuon yngl¿n â swyddogaeth y system addysg wrth fynd i¿r afael ag anghydraddoldeb ac annhegwch.
-
EDWM07
Ymarfer wedi’i Lywio gan Dystiolaeth
Bydd y modiwl hwn yn archwilio¿r gwahanol ffyrdd y caiff tystiolaeth ei chyflwyno a¿i chyhoeddi a bydd yn edrych ar sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn llywio ymddygiad ac ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried y gwahanol ffyrdd y caiff tystiolaeth ei chynhyrchu, ei defnyddio a¿i harchwilio mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol. Bydd yn edrych ar sut y gall gweithwyr addysg proffesiynol gael gafael ar dystiolaeth ryngwladol a¿i dehongli a sut y gallant ymgysylltu¿n ystyrlon ac yn foesegol â gwahanol fathau o dystiolaeth. Bydd y modiwl yn archwilio¿r ffyrdd y gall y defnydd o dystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol. Bydd yn archwilio sut y gall tystiolaeth lywio ymarfer a chynorthwyo gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer
-
EDWM08
Archwilio Addysgeg
Mae¿r modiwl hwn yn archwilio safbwyntiau a dadleuon rhyngwladol amrywiol ynghylch yr egwyddorion addysgegol sy¿n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso¿n feirniadol ddamcaniaethau dysgu a byddant yn archwilio¿r dulliau addysgegol yr ystyrir eu bod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni ystod eang o ddeilliannau dysgwyr. Cynlluniwyd y modiwl i alluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso¿u gwybodaeth am theori ac ymchwil addysgegol i¿w lleoliadau a¿u cyd-destunau proffesiynol eu hunain. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dulliau egwyddorol a gwybodus o ran ymarfer addysgegol ac yn cefnogi eu hymholiad i wahanol fathau o ymarfer addysgegol.
-
EDWM09
Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth
Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ymgysylltu â¿r dadleuon allweddol ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y modiwl yn cyfuno damcaniaethau ADY ag ymchwil ar arferion gorau. Bydd myfyrwyr yn defnyddio¿r damcaniaethau a¿r dadleuon diweddaraf i feddwl yn feirniadol am ADY yng Nghymru a sut y maent yn berthnasol yn ymarferol i¿r ystafelloedd dosbarth o¿r ysgol hyd at addysg bellach. Felly, bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth lawn o theori ac ymarfer ym maes ADY. Bydd y myfyrwyr yn datblygu¿r gallu i feddwl yn feirniadol am y drafodaeth gyfredol ac yn cymhwyso¿u gwybodaeth i arfer ystafell ddosbarth. Hefyd, anogir myfyrwyr i gydweithio a rhannu ymarferion gorau ym maes ADY a chynhwysiant.
-
EDWM10
Arwain a Rheoli ADY
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau hyfforddi ac arwain sydd eu hangen i fod yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) effeithiol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a¿r Tribiwnlys Addysg. Bydd angen myfyrio¿n fanwl ar feysydd o gryfder personol a meysydd i¿w datblygu ar gyfer y modiwl. Defnyddir astudiaethau achos i archwilio swyddogaethau a chyfrifoldebau¿r CADY mewn cysylltiad â phlant, teuluoedd a gweithio¿n rhyngbroffesiynol. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth fanwl am strategaethau ymyrryd priodol ar gyfer y lleoliad cyfan i gefnogi¿r rhai hynny ag ADY.
-
EDWM11
Arwain a Rheoli gweithwyr addysg proffesiynol
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y modelau, y dulliau a'r arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol yn effeithiol. Mae'n archwilio'r arferion sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol, mewn gwahanol leoliadau addysg, drwy dynnu'n benodol ar y sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried damcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig mewn cysylltiad ag arwain a rheoli gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd hefyd yn ystyried y berthynas rhwng gofynion polisi lleol a chenedlaethol a'r arfer o arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol, yn enwedig o ran gwireddu arweinyddiaeth systemau mewn gwahanol wledydd a chyd-destunau.
-
EDWM12
Arwain Newid Sefydliadol
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar brosesau ac ymarferoldeb arwain newid sefydliadol ar lefel ysgol a system. Bydd yn archwilio dadleuon allweddol ynghylch damcaniaethau newid a rheoli newid mewn cysylltiad â gwelliant sefydliadol. Bydd y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr i archwilio¿n feirniadol gyfraniad arweinwyr yn ystod adegau o newid sefydliadol ac ansicrwydd. Bydd yn rhoi¿r wybodaeth a¿r ddealltwriaeth iddynt am arweinyddiaeth fel y gallant arwain a gweithredu newid yn effeithiol yn eu cyd-destun. Bydd y modiwl yn cymharu gwahanol ddulliau o gyflawni newid sefydliadol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a¿r gofynion polisi sy¿n dylanwadu ar newidiadau o¿r fath.
-
EDWM13
Addysgeg ac Ymarfer
Mae¿r modiwl hwn yn canolbwyntio ar archwilio¿n feirniadol addysgu effeithiol a bydd yn archwilio cysyniadau, modelau a damcaniaethau addysgeg allweddol. Bydd y modiwl yn cynnig gwybodaeth addysgeg gyfoes a bydd yn cysylltu damcaniaethau dysgu allweddol ag ymarferion proffesiynol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i werthuso, dethol a chymhwyso¿r strategaethau dysgu ac addysgu priodol i sefyllfaoedd dysgu penodol. Bydd yn rhoi¿r sgiliau iddynt ddadansoddi a dehongli amrywiaeth o ddata ynghylch dysgu a dysgwyr. Bydd y modiwl yn cefnogi cyfranogwyr i fyfyrio¿n bwrpasol ar eu harferion addysgeg eu hunain a¿r cyfleoedd addysgu yn eu cyd-destunau proffesiynol yn y dyfodol.
-
EDWM15
Arwain o Fewn ac Ar Draws Systemau Addysg
Mae arweinyddiaeth system o fewn ac ar draws sefydliadau addysgol yn fwyfwy pwysig er mwyn adeiladu¿r cyfalaf proffesiynol a¿r capasiti proffesiynol angenrheidiol ar gyfer gwella. Mae tystiolaeth ryngwladol fod arweinwyr/arweinyddiaeth system, pan y¿i defnyddir yn gywir, yn gallu bod yn rym cadarnhaol ar gyfer newid
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar rolau, swyddogaethau a chyfrifoldebau arweinyddiaeth y rheiny sy¿n gweithredu¿n arweinwyr system, ar wahanol lefelau. Mae¿r dystiolaeth ryngwladol ynghylch arweinwyr/arweinyddiaeth system, fodd bynnag, yn pwyntio¿n gyson at yr angen am eglurder ynghylch:
¿ Diffiniad, rôl a swyddogaethau arweinwyr system.
¿ Y meini prawf ar gyfer dewis a¿r broses benodi.
¿ Cyfrifoldebau craidd a¿r disgwyliadau a osodir ar arweinwyr system.
¿ Y strwythurau atebolrwydd a¿r prosesau gwerthusol sy¿n amgylchynu¿u rôl fel arweinwyr system.
¿ Mesur effaith arweinwyr/arweinyddiaeth system trwy brosesau monitro a gwerthuso cytunedig.
Felly, bydd 4 llinyn craidd y modiwl hwn yn cwmpasu¿r agweddau micro a macro ar arwain o fewn, ar draws a rhwng systemau.