Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi am chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drawsnewid systemau iechyd a gofal? Ydych chi am herio'r status quo a defnyddio'ch syniadau arloesol i ddatblygu systemau a gwasanaethau sydd o fudd i'r claf a'r sefydliad?
Nod y cwrs hwn yw arfogi rheolwyr canol ac uwch reolwyr yn well o fewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU ac yn fyd-eang, i arwain newid trawsnewidiol a sbarduno arloesedd o fewn systemau, prosesau a thechnolegau gofal iechyd.
Mae'r angen cynyddol am systemau iechyd a gofal sy'n cael eu gyrru gan werthoedd yn ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr sy'n gallu sbarduno trawsnewidiadau sefydliadol a thrawsnewidiadau ar draws y system. Mae'r heriau yn y dyfodol yn galw am ddull newydd radical, wedi'i ategu gan egwyddorion darbodus, i arwain newid, harneisio technolegau newydd a herio diben, gwerth a lleoliad y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o hyd i ddinasyddion.
Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i wireddu arloesedd ar lefel leol, gyda'r potensial i arwain drwy drawsnewid ar lefel system. Gan ddefnyddio meddylfryd ac Arloeswyr Comisiwn Bevan, ynghyd â safbwynt Arweinwyr Arloesedd y GIG, diwydiant a'r sector ehangach, byddwch yn cael mewnwelediad uniongyrchol, amhrisiadwy i gymhwyso'r damcaniaethau y byddwch yn eu hastudio.
Mae gwella eich sgiliau rheoli i gyfateb i'r gofynion mewn lleoliad iechyd a gofal modern yn allweddol i sicrhau eich bod yn gallu arwain sefydliadau'n llwyddiannus drwy heriau arloesol a thrawsnewidiol.